Carol plygain
Carolau a genir yng ngwasanaeth y plygain, yn yr eglwys rhwng tri a chwech o'r gloch y bore, fel arfer, ar fore dydd Nadolig, yw carolau plygain. Cred rhai y daw'r gair 'plygain' o'r gair Lladin pullicantio, sef 'ar ganiad y ceiliog'; cred eraill mai o'r gair 'plygu' y daw. Mae sawl amrywiad ar y gair: pylgen, pilgen, plygan, plygen a.y.y.b. Ceir enghraifft o'r gair mewn llawysgrifau Cymraeg mor gynnar a'r 13g ('pader na pilgeint na gosber'). Sylwer hefyd nad oedd 'carol' yn golygu'r yn peth yn union ag y mae heddiw ; enw ar fath o gerdd draethiadol, gan amlaf ar y mesurau rhydd, ydyw 'carol' a cheir enghreifftiau o garolau seciwlar hefyd, e.e. y carolau haf. Er y gellid galw y carolau plygain yn "garolau Nadolig" felly, mae eu naws yn bur wahanol i'r carolau Nadolig sy'n gyfarwydd i ni heddiw.
Enghreifftiau o garolau Plygain
golyguPrif garol y Plygain ydy'r olaf yn y gwasanaeth, sef Carol y Swper.
-
'Pa Beth yw'r Golau' gan barti o Lanrwst.
-
Trawd o Lanfair Dyffryn Clwyd yn canu 'Seinio Clod'
Sain
golyguDolenni allanol
golygu- Arfon Gwilym yn canu rhai o'r hen garolau plygain.[dolen farw]
- Gwefan Sain Ffagan. Archifwyd 2011-03-05 yn y Peiriant Wayback
- Blog Caneuon Gwerin.