Môr lawes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap Android |
||
Llinell 1:
[[Delwedd:Giant_Squid_NASA.jpg|alt=Photo of squid with prominent eye|bawd|300px|Môr lawes enfawr (Saesneg: giant squid)]]
Seffalopodau o'r
Ymwahanodd y '''fôr lawes''' oddi wrth seffalopodau eraill yn ystod y Cyfnod [[Jwrasig]] ac mae'n cymryd rôl debyg i bysgod teleost fel ysglyfaethwyr dŵr agored o faint ac ymddygiad tebyg. Maent yn chwarae rhan bwysig yn y we bwyd dŵr agored. Defnyddir y ddau dentacl hir i afael yn yr ysglyfaeth a'r wyth braich i'w ddal a'i rheoli. Yna mae'r pig yn torri'r bwyd yn ddarnau maint addas ar gyfer llyncu. Mae môr lewys yn nofwyr cyflym, yn symud trwy yrriant jet, ac yn lleoli eu hysglyfaeth yn bennaf gan ddefnyddio eu golwg. Maent ymhlith y mwyaf deallus o [[Infertebrat|greaduriaid infertebrat]], ac mae grwpiau o fôr lawys Humboldt wedi eu gweld yn hela ar y cyd. Mae [[Morgi|siarcod]], pysgod eraill, adar y môr, [[Morlo|morloi]] a [[Morfiligion|morfilod]] yn eu bwyta, yn enwedig [[Morfil Sberm|morfilod sberm]] .
Llinell 6:
Gall môr lewys newid lliw fel cuddliw neu i anfon signalau. Mae rhai rhywogaethau yn [[Bywoleuni|fywoleuol]], ac yn defnyddio eu goleuni fel cuddliw gwrth-oleuo, tra gall llawer o rywogaethau ryddhau cwmwl o inc i dynnu sylw ysglyfaethwyr.
Caiff môr lewys eu bwyta gan bobl a cheir pysgodfeydd masnachol yn Japan, Môr y Canoldir, de-orllewin Cefnfor yr Iwerydd, dwyrain y Cefnfor Tawel a mannau eraill. Fe'u defnyddir mewn bwydydd o amgylch y byd, a gelwir hwy yn aml yn "calamari". Mae môr lewys wedi ymddangos mewn llenyddiaeth ers y cyfnod clasurol, yn enwedig mewn straeon am fôr lewys enfawr a bwystfilod môr.
== Cyfeiriadau ==
|