Esblygiad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Cell Danwydd (sgwrs | cyfraniadau)
hi
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Llinell 1:
{{multiple image
| align = right
| total_width = 320
 
| image1 = Alfred-Russel-Wallace-c1895.jpg
| alt1 = Alfred Russel Wallace
| caption1 = [[Alfred Russel Wallace]]
 
| image2 = Charles Darwin seated crop.jpg
| alt2 = Charles Darwin
| caption2 = [[Charles Darwin]]
 
| footer = Y ddau a wyddonydd a gyd-sefydlodd y theori fod canghennau esblygiad rhywogaethau yn tarddu o [[detholiad naturiol|ddetholiad naturiol]].
}}
[[Delwedd:Age-of-Man-wiki.jpg|bawd|de|200px|Gwaith [[Ernst Haeckel|Haeckel]]: "Paleontological Tree of Vertebrates (tua 1879)".
<br />Mae esblygiad [[rhywogaeth]]au dros gyfnod o amser wedi'i gymharu i goeden, gyda nifer o ganghennau'n tarddu o un bonyn. Dyma yw gwraidd ein syniadaeth heddiw.]]
[[Delwedd:Mwtadu mutation.jpg|bawd|de|200px|'''1''': [[Mwtadu]] yn creu amrywiaeth. '''2''': Mwtadiaid anffafriol yn methu atgenhedlu'n llwyddiannus. '''3''': Atgenhedlu yn digwydd gan greu mwtadiaeth ffafriol ac anffafriol eto. '''4'''. Mwtadiaid ffafriol yn fwy tebygol o oroesi. '''5''': ... ac atgenhedlu.]]
 
'''Esblygiad''' yw'r ddamcaniaeth fod nodweddion etifeddadwy poblogaethau biolegol yn newid ac yn datblygu dros filiynau o flynyddoedd. Mae'r broses yn gyfrifol am y cymhlethdod a'r amrywiaeth enfawr sydd yn nodweddu bywyd fel y'i welir ar y [[Daear|Ddaear]] heddiw. Gan fod rhai unigolion yn [[atgenhedlu]]'n fwy llwyddiannus nag eraill—oherwydd nodweddion sy'n eu galluogi i oroesi'n well, i atynu cymar yn fwy llwyddianus, neu i fanteisio'n well o'u [[amgylchedd]]—a gan fod yr unigolion hyn yn tueddu i drawsyrru i'w epil y nodweddion a arweinodd at eu llwyddiant, tueddir i rywogaethau addasu dros amser i'w hamgylchedd. Dyma brif fecaniaeth esblygiad.
 
Mae ein dealltwriaeth heddiw o [[bioleg|fioleg]] esblygol yn cychwyn gyda chyhoeddiad papurau [[Alfred Russel Wallace]] a [[Charles Darwin]] ym 1858 a'i phoblogeiddio yn 1859 pan gyhoeddodd [[Charles Darwin]] ei ''[[On the Origin of Species]]''. Cyplyswyd hyn a gwaith mynach o'r enw [[Gregor Mendel]] a'i waith ar [[planhigyn|blanhigion]] a'r hyn rydym yn ei alw'n [[etifeddeg]] a [[genyn]]au.<ref>[http://www.accessexcellence.org/RC/AB/BC/Gregor_Mendel.html Gwefan Saesneg National Health Museum]</ref>
 
Oddeutu 4 biliwn o flynyddoedd yn ôl, yn dilyn adweithiau cemegol cryf, crewyd [[moleciwl]]au a oedd yn medru creu copi ohonynt eu hunain drwy'r broses a elwir yn 'atgynhyrchu'. Hanner biwliwn o flynyddoedd yn ddiweddarach crewyd yr hynafiad sy'n perthyn i bopeth byw. Drwy ddatblygu'r broses o [[ffotosynthesis]], cynaeafwyd golau'r haul gan yr hynafiaid hyn a gynhyrchodd [[ocsigen]] moleciwlar (O<sub>2</sub>) a ymledodd drwy'r [[atmosffer]],<ref name="NYT-20131003">{{cite news |last=Zimmer |first=Carl |authorlink=Carl Zimmer |title=''Earth’s Oxygen: A Mystery Easy to Take for Granted'' |url=http://www.nytimes.com/2013/10/03/science/earths-oxygen-a-mystery-easy-to-take-for-granted.html |date=3 October 2013 |work=New York Times |accessdate=3 Hydref 2013 }}</ref> a ffurfiodd yn ei dro darian o [[haen osôn]] a amddiffynodd yr hyn a oedd yn brysur ddatblygu oddi tano: bywyd. O'r hynafiaid un-gell yma, datblygwyd y gallu i gell ffurfio oddi fewn i gell arall, gan greu organebau amlgellog sef ewcaryotau (''eukaryotes''). Drwy arbenigedd, ffurfiwyd mathau gwahanol a thrwy amsugno [[ymbelydredd electromagnetig]] [[uwchfioled]], lledodd y bywyd newydd hwn ar draws ac ar hyd wyneb y Ddaear. Mae'r [[ffosil]] cyntaf (neu hynaf) a ganfuwyd hyd yma (2015) oddeutu 3.7 biliwn o flynyddoedd oed, mewn [[tywodfaen]] yng Ngorllewin yr [[Ynys Las]].<ref name="NG-20131208">{{cite web |url =http://www.nature.com/ngeo/journal/vaop/ncurrent/full/ngeo2025.html|authors= Yoko Ohtomo, Takeshi Kakegawa, Akizumi Ishida, Toshiro Nagase, Minik T. Rosing| title =''Evidence for biogenic graphite in early Archaean Isua metasedimentary rocks'' |publisher =''[[Nature Geoscience]]''|doi=10.1038/ngeo2025|date=8 Rhagfyr 2013| accessdate =9 Rhagfyr 2013 }}</ref>
 
==Syniadau newydd Darwin: esblygiad drwy [[detholiad naturiol|ddetholiad naturiol]]==
[[Charles Darwin]] a [[Gregor Mendel]] yw sylfaenwyr damcaniaeth esblygiad fodern. Cyflwynodd Darwin ei syniadau am [[detholiad naturiol|ddetholiad naturiol]] yn 1859. Roedd y syniad yma yn hanfodol bwysig i syniadau Darwin.