Din Lligwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Gwybodlen lle | gwlad = {{banergwlad|Cymru}} }}
[[Delwedd:Dinll2.jpg|bawd|250px]]
[[Delwedd:Dinll3.jpg|bawd|250px]]
 
Mae '''Din Lligwy''' (weithiau '''Din Llugwy''') yn olion nifer o dai ac adeiladau eraill yn dyddio o gyfnod y [[Ymerodraeth Rufeinig|Rhufeiniaid]] ar arfordir dwyreinol [[Ynys Môn]] yn agos i bentref [[Moelfre]]; {{gbmapping|SH497861}}.
Llinell 7 ⟶ 5:
 
Saif Din Lligwy ar fryn isel heb fod ymhell o'r môr. Tu mewn i fur amgylchynol mae sylfeini nifer o adeiladau, rhai ohonynt yn grwn a rhai yn hirsgwar. Mae olion gweithio [[haearn]] yn rhai ohonynt. Credir fod yr adeiladau crwn yn dai a'r rhai hirsgwar yn weithdai. Er ei fod yn is nag yr oedd yn wreiddiol, mae'r mur allanol mewn cyflwr da.
[[Image:House at Din Llugwy.jpg|dde|bawd|chwith|250px|Gweddillion un o'r tai crwn]]
 
Cofrestrwyd yr olion hyn gan [[Cadw]] a chânt eu hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: AN023.<ref>[http://www.whatdotheyknow.com/request/15714/response/38315/attach/html/2/SAMs%20by%20UA.xls.html Cofrestr Cadw.]</ref> Bu cloddio [[archaeoleg]]ol yma, a gwnaed nifer o ddarganfyddiadau. Roedd rhai o'r rhain yn awgrymu fod y lle yn cael ei ddefnyddio yn y 4g O.C., ond roedd hefyd dystiolaeth o adeiladau ar y safle cyn y rhai a welir, efallai yn dyddio i [[Oes yr Haearn]]. Cafwyd hyd i far o arian, crochenwaith wedi ei fewnforio ac eitemau gwydr.
[[Delwedd:Dinll2.jpg|bawd|chwith|250px]]
[[Delwedd:Dinll3.jpg|bawd|250px]]
 
Y farn gyffredinol o ystyried y darganfyddiadau hyn a'r tai crwn oedd fod Din Llugwy yn perthyn i uchelwr neu bennaeth brodorol oedd wedi ei ddylanwadu i ryw raddau gan ddiwylliant Rhufain ond yn parhau i gadw at bensaerniaeth draddodiadol yn bennaf. Mae'r safle yng ngofal [[Cadw]]. Gellir gweld nifer o hynafiaethau diddorol eraill gerllaw, [[Capel Llugwy]] o'r [[12g]] a siambr gladdu [[Llugwy (siambr gladdu)|Llugwy]] o'r cyfnod [[Neolithig]].