Llyfrau ab Owen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Eisingrug (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Llyfr|Llyfrau]] bychain wedi'u rhwymo mewn llian glas yw '''Llyfrau ab Owen'''. Fe'u cyhoeddwyd gan Gwmni'r Cyhoeddwyr Cymreig, [[Caernarfon]], rhwng 1906 a 1914. Cymysgir yn aml rhwng Llyfrau ab Owen a '''[[Cyfres y Fil|Chyfres y Fil]]''' gan eu bod yr un maint a chanddynt yr un rhwymiad.
 
Nid cyfres mo Llyfrau ab Owen; yn hytrach, llyfrau annibynnol sy'n ymdrin yn bennaf â [[Cymru|Chymru]] ac enwogion Cymru yn hanesyddol, bywgraffiadol a ffeithiol. Cafwyd rhai llyfrau yn ymdrin ag agweddau y tu hwnt i Gymru, fel [[India'r Gorllewin]].
 
Golygydd y llyfrau oedd yr ysgolhaig [[Owen Morgan Edwards]] o [[Llanuwchllyn|Lanuwchllyn]]. EnwydRoedd gan y llyfraugolygydd arfab ôlo'r mab y golygydd,enw Ab Owen, a fu farw'n ifanc.<!--, angenac gwirioenw -->ei fab arall oedd [[Ifan ab Owen Edwards]], sef sylfaenydd [[Urdd Gobaith Cymru]].
 
Cafwyd cyfraniadau i'r llyfrau gan Garneddog, Richard Morgan, Winnie Parry, Elfyn, Y Parch. Richard Roberts, Y Parch. O. Gaianydd Williams, O. Williamson, Y Parch. T. Mordaf Pierce, Y Parch D. Cunllo Davies a'r golygydd.
Llinell 13:
*''Tro Trwy'r Wig''
*''Dafydd Jones o Drefriw''
*''Tro i'r De'', gan [[O. M. Edwards]] (1907)
*''Gwaith [[Hugh Jones]], Maesglasau''
*''Trwy India'r Gorllewin''
Llinell 20:
*''Cerrig y Rhyd'', gan [[Winnie Parry]]
*''Capelulo''
*''Tro Trwy'r Gogledd'', gan [[O. M. Edwards]] (1907)
*''[[Robert Owen]], Apostol Llafur - Cyfrol I''
*''[[Robert Owen]], Apostol Llafur - Cyfrol II''