Llyfrau ab Owen
Llyfrau bychain wedi'u rhwymo mewn llian glas yw Llyfrau ab Owen. Fe'u cyhoeddwyd gan Gwmni'r Cyhoeddwyr Cymreig, Caernarfon, rhwng 1906 a 1914. Cymysgir yn aml rhwng Llyfrau ab Owen a Chyfres y Fil gan eu bod yr un maint a chanddynt yr un rhwymiad.
Enghraifft o'r canlynol | cyfres o lyfrau |
---|---|
Daeth i ben | 1914 |
Golygydd | Owen Morgan Edwards |
Iaith | Cymraeg |
Dechrau/Sefydlu | 1906 |
Yn cynnwys | Caniadau Buddug |
Nid cyfres mo Llyfrau ab Owen; yn hytrach, llyfrau annibynnol sy'n ymdrin yn bennaf â Chymru ac enwogion Cymru yn hanesyddol, bywgraffiadol a ffeithiol. Cafwyd rhai llyfrau yn ymdrin ag agweddau y tu hwnt i Gymru, fel India'r Gorllewin.
Golygydd y llyfrau oedd yr addysgwr Owen Morgan Edwards o Lanuwchllyn. Roedd gan y golygydd fab o'r enw Owen ab Owen a fu farw'n ifanc, ac enw ei fab arall oedd Ifan ab Owen Edwards, sef sylfaenydd Urdd Gobaith Cymru.
Cafwyd cyfraniadau i'r llyfrau gan Garneddog, Richard Morgan, Winnie Parry, Elfyn, Y Parch. Richard Roberts, Y Parch. O. Gaianydd Williams, O. Williamson, Y Parch. T. Mordaf Pierce, Y Parch D. Cunllo Davies a'r golygydd.
Cyhoeddiadau
golygu- Gwreichion y Diwygiadau, Carneddog (1905)
- Clych Adgof - Penodau yn hanes fy addysg, Owen Edwards (1906)[1]
- Tro trwy'r wig, Richard Morgan, Cyfrol 1 (1906)
- Cerrig y Rhyd, Winnie Parry (1907)
- Capel Ulo, Elwyn (1907)
- Tro trwy'r Gogledd, Owen Edwards (1907)[2]
- Robert Owen, Apostol Llafur, Cyfrol 1 (1907)
- Dafydd Jones o Drefriw, Y Parch. O. Gaiannydd Williams (1907)
- Tro i'r De, Owen Edwards (1907)[3]
- Gwaith Hugh Jones, Maesglasau:
- i: Cydymaith yr Hwsmon (1774)
- ii: Hymnau newyddion (1797, 1907)
- Trwy India'r Gorllewin, Y Parch. D.Cunllo Davies (1908)[4]
- Gwaith yr Hen Ficer, Rhys Prichard (1908)
- Ceris y Pwll, Owen Williamson, Dwyran, Môn (1908)[5]
- Robert Owen, Apostol Llafur Cyfrol II (1910)
- Caniadau Buddug wedi eu casglu a'u dethol gan ei phriod (1911)[6]
- Brut y Tywysogion. Cyfrol I (1913)
- Cyfrinach y Dwyrain Y Parch. D.Cunllo Davies (1914)
- Dr. W.Owen Pughe gan y Parch. T.Mordaf Pierce (1914)
- Gwaith Iolo Goch, Iolo Goch (1915)
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Edwards, Owen Morgan (1906). . Caernarfon: Llyfrau Ab Owen.
- ↑ Tro Trwy'r Gogledd; Edwards,Owen Morgan;Llyfrau Ab Owen, Caernarfon;1907
- ↑ Edwards, Owen Morgan (1907). Tro i'r De. Caernarfon: Llyfrau Ab Owen.
- ↑ Davies, David Cunllo (1908). Trwy India'r Gorllewin. Caernarfon: Llyfrau Ab Owen.
- ↑ Williamson, Owen (1908). . Caernarfon: Llyfrau ab Owen.
- ↑ Prichard (Buddug), Catherine (1911). Pryse, Robert John (gol.). . Caernarfon: Llyfrau Ab Owen.