Tver: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
JAnDbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: ta:திவெர்
Llinell 19:
== Hanes Tver ==
Mae Tver yn ddinas hanesyddol. Yn y [[13eg ganrif]] a dechrau'r [[14eg ganrif]], fe dyfodd fel canolfan fasnachol, a daeth [[tywysogaeth Tver]] i fod ymysg tywysogaethau grymusaf yr ardal. Difethwyd rhannau helaeth o'r ddinas mewn gwrthryfel yn erbyn rheolaeth y [[Mongoliaid]] ym [[1327]], a dechreuodd ei dylanwad leihau o hyn ymlaen. Un o ddinesyddion enwocaf Tver oedd [[Afanasy Nikitin]], marsiandwr o'r ddinas a fordwyodd i [[India]] a de-ddwyrain Asia o [[1466]] hyd [[1477]] ac a ysgrifennodd ddisgrifiad o'i daith. Meddiannwyd y ddinas gan luoedd tywysogaeth fawr Moscow o dan [[Ifan III, Tywysog Mawr Moscow|Ifan III]] ym [[1485]]. Collodd ei hannibyniaeth o hyn ymlaen, gan ddod yn rhan o wladwriaeth ganolog Rwsia oedd yn ffurfio o gwmpas Moscow.
 
{{commonscat|Tver}}
 
[[Categori:Dinasoedd Rwsia]]