Tver

dinas yn Rwsia

Dinas yng nghanolbarth Rwsia Ewropeaidd yw Tver (Rwsieg Тверь / Tver'), canolfan weinyddol oblast Tver. Mae'n borthladd ar ran uchaf Afon Volga, lle mae Afon Tvertsa yn ymuno â hi. Fe'i lleolir 167 km i'r gogledd-orllewin i Moscow, a 485 km i'r de-ddwyrain i St Petersburg ar brif ffyrdd a'r rheilffordd rhwng y ddwy. Sylfaenwyd tywysogaeth rymus yn y ddinas yn yr Oesoedd Canol. Ailenwyd y ddinas fel Kalinin (ar ôl y chwyldroadwr Mikhail Kalinin) ym 1931, ond dychwelodd i'w henw gwreiddiol ym 1990. Ei phoblogaeth yw 408,903 (Cyfrifiad 2002).

Tver
Soviet square in tver.jpg
Coat of Arms of Tver (Tver oblast).png
Math tref/dinas, dinas fawr Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôl Afon Tvertsa Edit this on Wikidata
Poblogaeth 419,363 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1135 (dyddiad Gregoraidd cyn 1584) Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraeth Alexey Ogonkov Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Bergamo, Osnabrück, Besançon, Veliko Tarnovo, Khmelnytskyi, Wcrain, Veliko Tarnovo Municipality, Kaposvár Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Oblast Tver Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Rwsia Rwsia
Arwynebedd 152.22 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 135 metr Edit this on Wikidata
Gerllaw Afon Volga Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 56.857828°N 35.921928°E Edit this on Wikidata
Cod post 170000–179999 Edit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraeth Alexey Ogonkov Edit this on Wikidata

HanesGolygu

Mae Tver yn ddinas hanesyddol. Yn y 13g a dechrau'r 14g, fe dyfodd fel canolfan fasnachol, a daeth tywysogaeth Tver i fod ymysg tywysogaethau grymusaf yr ardal. Difethwyd rhannau helaeth o'r ddinas mewn gwrthryfel yn erbyn rheolaeth y Mongoliaid ym 1327, a dechreuodd ei dylanwad leihau o hyn ymlaen. Un o ddinesyddion enwocaf Tver oedd Afanasy Nikitin, marsiandwr o'r ddinas a fordwyodd i India a de-ddwyrain Asia o 1466 hyd 1477 ac a ysgrifennodd ddisgrifiad o'i daith. Meddiannwyd y ddinas gan luoedd tywysogaeth fawr Moscow o dan Ifan III ym 1485. Collodd ei hannibyniaeth o hyn ymlaen, gan ddod yn rhan o wladwriaeth ganolog Rwsia oedd yn ffurfio o gwmpas Moscow.