Castell Cwm Aron: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎top: Cyfnewid i -> o using AWB
Erthygl newydd using AWB
Llinell 11:
 
Ceir olion offer [[gwarchae]] ger y castell, sy'n dystiolaeth i sawl gwarchae gan Fyddin Cymru gymryd lle, yn eu hymgais i ailfeddiannu'r castell a'r tiroedd cyfagos. Ymddengys i'r gwarchae olaf fod yn 1215 gan y Tywysog Llywelyn ap Iorwerth fod yn ergyd angheuol i'r castell, a dirywiodd wedi hynny.
 
 
[[Delwedd:Map of the Cantrefs and Commotes of Rhwng Gwy a Hafren.svg|bawd|chwith|Lleoliad [[Maelienydd]]]]
Llinell 35 ⟶ 34:
Yn 1195, yn dilyn llwyddiant Llywelyn a'r fyddin Gymreig i gipio Castell Cwm Aron, cafwyd cryn lwyddiant yn ne Cymru gyda'r [[Arglwydd Rhys]] ([[1132]] – [[28 Ebrill]] [[1197]]) tywysog teyrnas [[Deheubarth]] yn cymryd Castell Colwyn (SO 108540) a [[Maesyfed (pentref)|Chastell Maesyfed]] gan ei losgi'n ulw ac yr un diwrnod cafwyd brwydr enbyd rhwng yr Arglwydd Rhys a Roger Mortimer (a'i gyfaill [[Hugh de Sais]]) ychydig y tu allan i bentref Maesyfed. Y Cymry oedd yn fuddugol.
 
Erbyn 1202 roedd yr Arglwydd Rhys wedi cymryd Castell Gwerthrynion, un arall o gestyll Roger Mortimer.
 
Yn Rhagfyr 1215 gwelwyd byddin Llywelyn Fawr yn cipio Castell Cwm Aron.
 
 
==Cyfeiriadau==