Gwenwynwyn ab Owain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
delwedd
Eisingrug (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 6:
Yn fuan daeth Gwenwynwyn i wrthdrawiad a [[Llywelyn Fawr]] oedd wedi dod yn dywysog [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]]. Bwriadodd Llywelyn ymosod ar Bowys Wenwynwyn yn [[1202]], ond gwnaed heddwch rhyngddynt gan yr eglwys. Ar y dechrau roedd y brenin [[John, brenin Lloegr|John o Loegr]] yn cefnogi Gwenwynwyn, ond yn ddiweddarach gwnaeth Llywelyn gytundeb a John a phriodi ei ferch [[Siwan]].
 
Yn [[1208]] aeth pethau'n ddrwg rhwng Gwenwynwyn a John pan ymosododd Gwenwynwyn ar diroedd un o arglwyddi'r [[Y Mers|Mers]]. Galwyd Gwenwynwyn i'r [[Amwythig]] i weld y brenin, a phan gyrhaeddodd yno cymerwyd ef yn garcharor. Achubodd Llywelyn y cyfle i feddiannu llawer o'i diroedd.
 
Rhwng [[1212]] a 1216 oedd Gwenwynwyn mewn cynghrair a Llywelyn, ond y flwyddyn honno dychwelodd John rai o'i diroedd iddo a gwnaeth gynghrair a'r brenin yn erbyn Llywelyn. Ymateb Llywelyn oedd ymosod ar Bowys Wenwynwyn a gyrru Gwenwynwyn ar ffo. Symudodd ei lys o'r hen lys brenhinol ym [[Mathrafal]] i'r [[Trallwng]]. Yn ddiweddarach ffoes i [[Lloegr|Loegr]], lle bu farw tua'r flwyddyn 1216.