John Lloyd-Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
→‎top: Gwybodlen using AWB
CriwGPC (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Bywgraffiad: cywiro treiglad. Newid dyddiad gorffen yr Eirfa i 1963.
Llinell 3:
 
==Bywgraffiad==
Ganed John Lloyd-Jones ym mhentref [[Dolwyddelan]] yn [[Dyffryn Lledr|Nyffryn Lledr]], [[Sir Gaernarfon]] ([[Conwy (sir)|Sir Conwy]] heddiw). Cafodd ei addysg brifysgol yng [[Prifysgol Bangor|Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru]], lle bu'n un o ddisgyblion [[John Morris-Jones]], a [[Prifysgol Rhydychen|Rhydychen]]. Treuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa goleg fel darlithydd mewn [[Cymraeg]] a'r [[Ieithoedd Celtaidd]] yng [[Coleg y Brifysgol, Dulyn|Ngholeg y Brifysgol]], [[Dulyn]], lle denodd llulu o fyfyrwyr disglair yn cynnwys [[T. J. Morgan]], [[Bobi Jones]] a [[J. E. Caerwyn-Williams]].
 
Enillodd y Gadair yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhydaman 1922]] am ei [[awdl]] 'Awdl y Gaeaf'. Ond fel awdur dau lyfr awdurdodol fe'i cofir yn bennaf, sef ''Enwau Lleoedd Sir Gaernarfon'' (1928) a ''Geirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg'' (1931-6563), geiriadur hanesyddol mawr o eirfa cerddi [[Cymraeg Canol]] a [[Hen Gymraeg]] a adawyd heb ei orffen ar ei farwolaeth yn 1956, wedi cyhoeddi wythsaitth rhan. Cyhoeddwyd wythfed ran ym 1963 mor bell â'r gair ''heilic'' ar ôl ei farwolaeth.
 
Mewn coffâd iddo yn y ''Times'', dywedwyd iddo fod yn "llysgennad answyddogol" dros Gymru ac [[Iwerddon]].<ref name=Times>{{cite news|title= Prof. J. Lloyd-Jones &ndash; Welsh ambassador in Ireland|work=[[The Times]]|page=11|date = 17 February 1956}}</ref> Roedd yn arholwr allanol Cymraeg ym [[Prifysgol Cymru|Mhrifysgol Cymru]] rhwng 1916 a 1955 pan ymddeolodd.<ref name=WBO>{{cite web|url=http://wbo.llgc.org.uk/en/s2-LLOY-JOH-1885.html|title=Lloyd-Jones, John (1885&ndash;1956), scholar and poet|work=Welsh Biography Online|publisher=[[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]]|accessdate=12 Tachwedd 2008|last=Parry|first=Thomas}}</ref>