Tŷ Newydd (siambr gladdu): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
a
Llinell 2:
Mae '''Tŷ Newydd''' yn siambr gladdu o'r cyfnod [[Neolithig]] gerllaw [[Llanfaelog]] yng ngogledd-orllewin [[Ynys Môn]].
 
Er bod y siambr wedi ei difrodi i raddau, a'r maen capan yn cael ei gynnal gan ddau biler diweddar, un o gerrig a'r llall o goncrid, mae digon ar ôl i ddangos fod Tŷ Newydd yn fedd cyntedd yn dyddio o ddechrau'r cyfnod Neolithig. Nid yw meini'r cyntedd yno bellach, ond gellir ei gweld mewn lluniau o ddechrau'r [[19eg ganrif]]. Mae'r maen capan yn awr yn llawer culach nag yr oedd yn wreiddiol; dywedir iddo hollti pan gyneuwyd coelcerth ar ben y maen i ddathlu pen-blwydd yn un o'r ffermydd cyfagos. Bu cloddio archeolegolarchaeolegol yma yn [[1935]], a chasglwyd o'r darganfyddiadau fod y siambr wedi parhau mewn defnydd am gyfnod hir.
 
Gellir cyrraedd Tŷ Newydd trwy adael Llanfaelog tua'r gogledd ddwyrain ar hyd yr [[A4080]], a chymeryd y troed cyntaf i'r chwith (i gyfeiriad [[Bryngwran]]) wedi gadael y pentref. Mae'r arwydd yn dynodi lle mae'r siambr ar yr ochr dde ychydig dros chwarter milltir yn nes ymlaen.