Gorsedd y Beirdd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
MystBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: fr:Gorsedd des bardes de l'Île de Bretagne |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
[[Delwedd:Baneryrorsedd.jpg|150px|bawd|[[Baner yr Orsedd]].]]▼
Cymdeithas o [[Bardd|feirdd]], [[Llenyddiaeth Gymraeg|llenorion]], [[Cerddoriaeth Gymraeg|cerddorion]] a phobl nodedig eraill y [[Diwylliant Cymraeg|byd diwylliannol Cymraeg]] yw '''Gorsedd y Beirdd''' (enw llawn '''Gorsedd Beirdd Ynys Prydain'''), a sefydlwyd gan [[Iolo Morganwg]] yn [[Llundain]] yn [[1792]]. Mae tair carfan o aelodau yn perthyn i'r orsedd ac mae gan bob grŵp ei liw. Daw'r [[Archdderwydd]] bob amser o blith y rhai sy'n gwisgo gwyn. Gellir dod yn aelod drwy lwyddo mewn arholiad, cael eich dewis i ddod yn aelod neu drwy ennill y gadair, y goron neu'r Fedal Ryddiaith mewn Eisteddfod Genedlaethol. Yn ogystal ag ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol mae'r Orsedd yn cyfarfod yng Nghylch yr Orsedd. Unwaith, cynhaliwyd cyfarfod o'r orsedd yn Llydaw.
▲[[Delwedd:Baneryrorsedd.jpg|150px|bawd|[[Baner yr Orsedd]].]]
Fe anrhydeddir bob blwyddyn Gymry amlwg sydd wedi gwneud cyfraniad i Gymru drwy eu gwahodd i ddod yn aelod o'r orsedd.
Cynhaliwyd [[Eisteddfod Caerfyrddin 1819]] yng ngwesty'r Llwyn Iorwg (neu'r ''Ivy Bush'') yng [[Caerfyrddin|Nghaerfyrddin]], a phenderfynwyd cynnwys yr Orsedd fel rhan o'r defodau. Ers hynny mae'r Orsedd wedi dod yn fwyfwy cyfystyr â seremonïau'r [[Eisteddfod Genedlaethol]], yn arbennig seremonïau'r [[Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol|Cadeirio]], y [[Coron yr Eisteddfod Genedlaethol|Coroni]] a'r [[Fedal Ryddiaith]]. Mae ambell i Archdderwydd wedi defnyddio ei safle i wneud datganiadau gwleidyddol.
Gwaith dychymyg [[Iolo Morganwg]] yw'r Orsedd. Bathodyn yr Orsedd yw
Cyflwynir y [[Corn
==Gweler hefyd==
|