Sifalri: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Ideoleg a chôd ymddygiad delfrydol dosbarth y marchogion yn Ewrop yr Oesoedd Canol oedd '''Sifalri''' (benthyciad diweddar o'r gair [[Saesne...
 
delwedd del
Llinell 1:
[[Delwedd:Codex_Manesse_Heinrich_von_Breslau.jpg|250px|bawd|'''Sifalri''' ar faes y [[twrnamaint]] (o'r [[Codex Manesse]], [[yr Almaen]], dechrau'r [[14eg ganrif]])]]
[[Ideoleg]] a chôd [[ymddygiad]] [[Delfrydiaeth|delfrydol]] [[dosbarth]] y [[marchog]]ion yn [[Ewrop]] yr [[Oesoedd Canol]] oedd '''Sifalri''' (benthyciad diweddar o'r gair [[Saesneg]] ''chivalry'', sy'n fenthyciad yn ei dro o'r gair [[Ffrangeg]] Canol ''chivalrie'', Hen Ffrangeg ''chevalrie'', o ''chevalier'' "marchog").
 
Roedd ymddygiad sifalriaidd yn dibynnu ar cysyniadau cymhleth o [[urddas]] a [[Cwrteisi|chwrteisi]]. Roedd ei wreiddiau'n hen ond cafodd hwb sylweddol yn ystod yr [[12fed ganrif]] gan y [[Croesgadau]] a datblygiad delfrydau [[Caru llysaidd]] (''amour courtois'') a llên y [[Rhamant]]au [[Arthur]]aidd.
 
Gellid dadlau fod y cysyniad o '''Sifalri''' wedi cyrraedd ei uchafbwynt yn [[Ffrainc]] (yn arbennig ym [[Profens|Mhrofens]] a'r de) ac yn y [[Lefant]] yn y cyfnod rhwng [[y Groesgad Gyntaf]] a'r croesgadau dinistriol diweddarach. Mae croniclau'r cyfnod (e.e. [[Joinville]] a [[Froissart]]) yn llawn o ddisgrifiadau o anturiaethau a digwyddiadau sifalraidd. Am gyfnod byr rhannai'r Croesgadwyr a'u gwrthwynebwyr [[Islam|Mwslemaidd]] yr un delfryd arwrol seiliedig ar gymysgedd o ryfela cadarn proffesiynol a pharch ac edmygedd - cyfeillgarwch a chariad hyd yn oed - rhwng arweinyddion y ddwy blaid. Edmygid [[Saladin]] yn fawr gan y mwyafrif o dywysogion a chomtau'r Croesgadwyr, er enghraifft, ac roedd gwleddau a thwrnameintau'n rhan o fywyd yr uchelwyr ar y ddwy ochr, yn aml yn eu cwmni ei gilydd.
 
Dirywiodd sifalri fel delfryd yn yr Oesoedd Canol diweddar ond arosodd yr arfer o gynnal [[Twrnamaint|twrnameintiau]] "sifalrig" rhwysgfawr hyd yr [[16eg ganrif]].