Marchog

rhywun sydd wedi cael teitl er anrhydedd gan deyrn neu arweinydd gwleidyddol arall

Milwr sy'n ymladd ar gefn ceffyl (march) yw marchog. Mae'n ddull hynafol o ymladd y ceir tystiolaeth helaeth ohono yn rhyfeloedd yr Henfyd. Erbyn heddiw mae'r marchog fel milwr yn perthyn i hanes ond mae rhai gwledydd yn parhau i gadw marchogluoedd at bwrpas seremonïol.

Marchogion gyda baner ac arfau Owain Glyndŵr
Erthygl yw hon am filwr ar gefn ceffyl. Gweler hefyd marchog (gwahaniaethu) a marchog (gwyddbwyll).

Yr Oesoedd Canol golygu

Roedd y marchog yn yr Oesoedd Canol yn cyfateb i danc yn ein oes fodern. Roedd yn gwisgo haenau ar haenau o arfwisg y technoleg mwya diweddar. Nid dyn cyffredin oedd y marchog fodd bynnag gan fod y fath wisg yn ofnadwy o gostus. Roedd yn rhaid bod yn ddyn cyfoethog iawn gyda statws uchel i ddod yn farchog oherwydd roedd talu am geffyl, edrych ar ei ôl, trin, magu, bwydo a hyfforddi’r ceffyl yn costio tua’r un faint ac awyren fechan heddiw. Heb sôn am dalu am yr arfwisg i gael ei wneud a'i ffitio’r marchog gan of arbennig. Nid gwaith i'r gof lleol oedd i greu’r arfwisg. Roedd ei arfau hefyd yn gostus iawn: cleddyf, tarian, cyllell ac efallai ychydig o waywffyn.

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.