Llyfr Oriau Llanbeblig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Impio'r wybodlen newydd (Gwybodlen Peth ar yr hen wybodlen using AWB
symud y ddelwedd
Llinell 1:
{{Pethau| fetchwikidata=ALL | suppressfields= }}
[[Delwedd:Llanbeblig Hours (f. 4v.) God, The Holy Spirit, and Christ Crucified.jpg|bawd|Miniatur o'r Drindod yn Llyfr Oriau Llanbeblig (LlGC MS 17520A, fol. 4v); maint y llun 175mm x 121mm]]
[[Llawysgrifau Cymreig|Llawysgrif Gymreig ganoloesol]] a gysylltir ag ardal [[Llanbeblig]], ar gyrion [[Caernarfon]], [[Gwynedd]], yw '''Llyfr Oriau Llanbeblig'''. Mae'n enghraifft brin o ddosbarth arbennig o lyfrau canoloesol a elwir yn [[Llyfr Oriau|llyfrau oriau]], sef llyfrau defosiynol wedi'u darlunio'n gain. [[Lladin]] yw iaith y llawysgrif.
 
Credir fod y llawysgrif yn dyddio o tua diwedd y [[14g]]. Fe'i adnabyddir fel 'Llyfr Oriau Llanbeblig' am fod darlun sy'n dangos dathliad cysegru eglwys [[Peblig]] Sant yn ymddangos ynddi. Damcaniaethir ei bod yn bosib mai'r perchennog cyntaf oedd merch o'r enw Isabella Godynogh (bu farw yn 1413). Roedd llyfrau oriau yn aml yn cael eu llunio ar gyfer merched. Ceir nodyn am farwolaeth Isabella yn y llawysgrif ar gyfer 23 Ebrill.
[[Delwedd:Llanbeblig Hours (f. 4v.) God, The Holy Spirit, and Christ Crucified.jpg|bawd|''Miniatur'' o'r Drindod yn Llyfr Oriau Llanbeblig (LlGC MS 17520A, fol. 4v); maint y llun 175mm x 121mm]]
 
Llawysgrif groen ydyw Llyfr Oriau Llanbeblig, sy'n cynnwys 138 tudalen [[ffolio]] (175mm x 121mm). Mae'n cynnwys saith mân-ddarlun, yn cynnwys portread o frenin a allai gynrychioli [[Macsen Wledig]], a gysylltir ag ardal [[Segontiwm]] yn y chwedl ganoloesol ''[[Breuddwyd Macsen Wledig]]''. Ceir yn ogystal ddarluniau o Sant [[Pedr]], yr archangel [[Gabriel]], a'r [[Forwyn Fair]] a'r [[Iesu]].