Llyfr Oriau Llanbeblig

llawysgrif Gymreig ganoloesol a gysylltir ag ardal Llanbeblig, ar gyrion Caernarfon, Gwynedd

Llawysgrif Gymreig ganoloesol a gysylltir ag ardal Llanbeblig, ar gyrion Caernarfon, Gwynedd, yw Llyfr Oriau Llanbeblig. Mae'n enghraifft brin o ddosbarth arbennig o lyfrau canoloesol a elwir yn llyfrau oriau, sef llyfrau defosiynol wedi'u darlunio'n gain. Lladin yw iaith y llawysgrif.

Llanbeblig Hours (f. 2r.) The Annunciation, The Virgin Mary enthroned under a green canopy..jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynol llawysgrif goliwiedig, llyfr oriau Edit this on Wikidata
Awdur anhysbys Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi 1501 Edit this on Wikidata
Tudalennau 138 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu c. 1390 Edit this on Wikidata
Lleoliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Yn cynnwys Breuddwyd Macsen Wledig Edit this on Wikidata
Statws hawlfraint parth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Credir fod y llawysgrif yn dyddio o tua diwedd y 14g. Fe'i adnabyddir fel 'Llyfr Oriau Llanbeblig' am fod darlun sy'n dangos dathliad cysegru eglwys Peblig Sant yn ymddangos ynddi. Damcaniaethir ei bod yn bosib mai'r perchennog cyntaf oedd merch o'r enw Isabella Godynogh (bu farw yn 1413). Roedd llyfrau oriau yn aml yn cael eu llunio ar gyfer merched. Ceir nodyn am farwolaeth Isabella yn y llawysgrif ar gyfer 23 Ebrill.

Miniatur o'r Drindod yn Llyfr Oriau Llanbeblig (LlGC MS 17520A, fol. 4v); maint y llun 175mm x 121mm

Llawysgrif groen ydyw Llyfr Oriau Llanbeblig, sy'n cynnwys 138 tudalen ffolio (175mm x 121mm). Mae'n cynnwys saith mân-ddarlun, yn cynnwys portread o frenin a allai gynrychioli Macsen Wledig, a gysylltir ag ardal Segontiwm yn y chwedl ganoloesol Breuddwyd Macsen Wledig. Ceir yn ogystal ddarluniau o Sant Pedr, yr archangel Gabriel, a'r Forwyn Fair a'r Iesu.

CyfeiriadauGolygu

Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Dolen allanolGolygu