Anarchiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Diobaithyn (sgwrs | cyfraniadau)
Ychwanegu is benawdau ar wahannol mathau o anarchiaeth ac esboniad ohonynt
Diobaithyn (sgwrs | cyfraniadau)
ychwanegais rhannau ar ysgrifenwyr anarachiaeth gymdeithasol a chysylltiadau i Gymru
Llinell 3:
 
==Anarchiaeth Unigolyddol==
Rhoddir anarchiaeth unigolyddol pwyslais ar ewyllys yr unigolyn yn erbyn rheolaeth allanol megis y wladwriaeth, crefydd, ideoleg, moeseg ac ati gan eraill. Mae gan yr athroniaeth sawl amrywiant, rhai yn gwrthwynebiaeth i'w gilydd. Y ffurf mwyaf eithafol o anarchiaeth unigolyddol yw egoistiaeth, math o nihiliaeth a wrthwyneba pob math o foeseg. Gwelir yr hyn sydd gan ddyn y grym i'w wneud fel yr hyn sydd yn cyfiawn, ac y dylai unigolion gweithio am les ei hun yn unig. Enghreifftiau o'r fath anarchwyr yw'r Marquis de Sade (o le ddaw'r air "''Saddism''" yn Saesneg, a golygir cael pleser trwy rhoi poen i eraill) a Max Stirner. Math arall o anarchiaeth unigolyddol yw anarchiaeth gyfalafol a gredir yng nghymdeithas heb lywodraeth, masnach cwbl rhydd a pharch naturiol at hawliau eiddo. Er ei syniadau eithafol, nid yw anarchiaeth unigolyddol yn cefnogol o chwyldro fel modd o gyrraedd ei amcanion - gwelir chwyldro fel gweithred gyfunol felsydd moddyn ffordd o greu ymosodiadau newydd ar ewyllys yr unigolyn. Yn hytrach, trwy lwybrau esblygol mae anarchwyr unigolyddol yn gweld cyrhaeddiad ei syniadau. I rai anarchwyr egoistiaeth osgoi ac anwybyddu y wladwriaeth a chyfyngiadau ar ewyllys yr unigolyn yw'r unig amcan.
 
==Anarchiaeth Gymdeithasol==
Llinell 12:
Mae'r modd o gyrraedd y gymdeithas yn holl bwysig i anarchiaeth gan ei fod yn adlewyrchu egwyddorion yr ideoleg. Gwrthwyneba anarchiaeth gymdeithasol pleidiau gwleidyddol oherwydd ei natur gyfunol, hierarchaidd, yn enwedig felly y plaid canolig, blaengad Marcsiaeth-Leninaeth. Credir y dylai'r gweithwyr ei hun ymgymryd 'oll yn y chwyldro yn erbyn cyfalafiaeth - ac maent yn dal yr egwyddor yma yn gyson ar bob enghraifft o ormes, hynny bod rhaid i ddioddefwyr yr ormes eu hun dinistrio'r ormes. Os na, fe droiff ryddhawyr yn ormeswyr eu hun. Rhan hanfodol o arfer anarchwyr felly yw codi ymwybyddiaeth ymysg y poblogaeth o'u hachos a gweithredu trwy grwpiau gwirfoddol (yn aml dros dro) a weithiwyd mewn modd consensws, yn debyg i'r ffordd a rhagwelwyd cymdeithasau yn gweithredu mewn cymdeithas anarchol.
Oherwydd natur datganoledig a deinamig yr ideoleg, nid oes un ysgrifennwr gellid seilio syniadau anarchiaeth gymdeithasol arno. Pierre-Joseph Proudoun oedd un o'r ysgrifenwyr cyntaf, Ffrancwr cwestiynodd hawliau eiddo a ddywedodd yn enwog mai "lladrata yw eiddo" a wnaeth dylanwadu'n gryf ar sosialaeth. Yn y 19eg ganrif hefyd ceir y Slafiad Mikhail Bakunin a wnaeth dadlau'n danbaid efo [[Karl Marx]] gan achosi rhwygiad anarchiaeth o'r ''International'' cyntaf. Yn ystod cyfnod [[Vladamir Lenin]] a'r Bolsiefigiaid yn Rwssia fe ysgrifennodd Peter Kropotkin, wnaeth dadlau yn groes i ddehongliadau o ddetholiadau naturiol y pryd yn ei lyfr ''Mutual Aid'' bod cydweithredu (yn hytrach na chystadlu) yn naturiol. Fe hefyd cefnogodd anarchiaeth o safbwynt amaethyddol, yn groes i cysyniadau diwydiannol sy'n prif ffrwd yn ideolegau comiwnyddol. Yn ddiweddarach, enghraifft o ysgrifennwr anarchiaeth gymdeithasol fodern yw [[Noam Chomsky]], ieithydd arbenigol a feirniadai bolisïau tramor yr [[Unol Daleithiau]].
===Gweler hefyd===
 
Anarchwyr eraill enwog yw'r awdur Rwsiaidd [[Leo Tostoy]] (anarchydd Cristnogol) a'r awdur a bardd Saesnig [[Oscar Wilde]].
 
===Cysylltiadau â Chymru===
Yng Nghymru, yn enwedig y De diwydiannol, bu gysylltiadau hanesyddol ag anarchiaeth gymdeithasol. Cymro Cymraeg (oedd yn frwdfrydig am yr iaith) yn dod o [[Gastell Nedd]] o'r enw Sam Mainwaring a greodd y derm ''anarcho-syndicalism'', ffurf poblogaidd o anarchiaeth gymdeithasol a roddir pwyslais ar undebau llafur<ref>[http://libcom.org/history/mainwaring-sam-1841-1907 libcom.com, ''Mainwaring, Sam 1841-1907'']</ref>. Mae'r traddodiad yma o anarchiaeth i'w weld yng Nghymru mewn mudiadau gweithwyr megis yr un tu ôl y pamffled ''The Miner's Next Step''. Priododd yr Americanes [[Emma Goldman]], anarchydd a ffeminydd enwog a gafodd ei chyhuddo am lofruddiaeth yr Arlywydd McKinley, glöwr o Gaerfyrddin o'r enw James Colton<ref>[http://libcom.org/history/emma-goldman-%E2%80%93-queen-anarchy-carmarthenshire-connection libcom.com, ''Emma Goldman – The Queen of Anarchy: The Carmarthenshire Connection'']</ref>. O Abertawe daw'r anarchydd Ian Bone a sefydlodd y cylchgrawn gwleidyddol ''Class War''.
 
===Gweler hefyd===
*[[Nihiliaeth]]
*[[Comiwnyddiaeth]]