Anarchiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Diobaithyn (sgwrs | cyfraniadau)
ychwanegais rhannau ar ysgrifenwyr anarachiaeth gymdeithasol a chysylltiadau i Gymru
Diobaithyn (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 8:
Ideoleg a chwympiff dan gategori mwy eang sosialaeth rhyddfrydol yw anarchiaeth gymdeithasol neu anarchiaeth sosialaidd. Gelwir am gymdeithas lle bu'r ffurf gynhyrchu yn nwylo'r gweithwyr ac eiddo mewn perchnogaeth cymunedol, gydag unigolion yn cydweithio mewn grwpiau gwirfoddol, democrataidd heb hierarchaeth. Gwelir rhai anarchwyr y grwpiau gwirfoddol yma yn cydweithio gydag eraill ar haenau uwch mewn modd ffederal (eto gwirfoddol), er mwyn wneud penderfyniadau uwch. Bu'n gwrthwynebu'r wladwriaeth yn ogystal i gyfalafiaeth - gwelir y ddau yn ynghlwm, y wladwriaeth yn amddiffyn hawliau eiddo ac felly cyfalafiaeth. Yn ôl anarchwyr gymdeithasol felly mae anarchiaeth gyfalafol yn fath o hunan gwrthgyferbyniad, cymdeithas amhosib. Bwysig nodi nid yw anarchiaeth gymdeithasol yn dechnegol yn gwrthwynebu llywodraeth - sef ymgorfforiad o ewyllys gwleidyddol, ond y wladwriaeth - sefydliad canolig o lywodraeth anwirfoddol gyda monopoli dros y defnydd o drais. Llywodraeth gyda chaniatâd mae anarchiaeth gymdeithasol yn cefnogi. Serch hyn, yn iaith pob dydd lle ddefnyddir y geiriau llywodraeth a gwladwriaeth yn ymgyfnewidiol mae'n deg i ddweud bod anarchwyr gymdeithasol yn gwrthwynebu'r llywodraeth.
 
Cymdeithas [[Comiwnyddiaeth|comiwnyddolgomiwnyddol]] yw un anarchiaeth gymdeithasol felly. Ond er ei bod hefyd yn ideoleg chwyldroadol, yn wahanol i [[Marcsiaeth|Farcsiaeth]] nid yw'n galw am gyfnod o wladwriaeth sosialaeth cyn gyrraedd gomiwnyddiaeth. I anarchwyr cymdeithasol mae gwladwriaeth sosialaidd, neu wladwriaeth ddemocrataidd yn amhosib, gan ni ellid ymgorffori y pobl (y dosbarth gweithiol) o fewn gwladwriaeth oherwydd ei natur canolig a gorfodol. Rhaid chwalu y wladwriaeth er mwyn chwalu cyfalafiaeth, nid defnyddio'r wladwriaeth yn erbyn cyfalafiaeth. Dywedodd yr anarchydd Mikhail Bakunin ar y gwrthgyferbyniad elfennol gwelodd ym Marcsiaeth, "er mwyn rhyddhau y pobl rhaid gyntaf eu caethiwo"<ref>[http://www.marxists.org/reference/archive/bakunin/works/1873/statism-anarchy.htm Mikhail Bakunin, ''Statism and Anarchy'']</ref>.
 
Mae'r modd o gyrraedd y gymdeithas yn holl bwysig i anarchiaeth gan ei fod yn adlewyrchu egwyddorion yr ideoleg. Gwrthwyneba anarchiaeth gymdeithasol pleidiau gwleidyddol oherwydd ei natur gyfunol, hierarchaidd, yn enwedig felly y plaid canolig, blaengad Marcsiaeth-Leninaeth. Credir y dylai'r gweithwyr ei hun ymgymryd 'oll yn y chwyldro yn erbyn cyfalafiaeth - ac maent yn dal yr egwyddor yma yn gyson ar bob enghraifft o ormes, hynny bod rhaid i ddioddefwyr yr ormes eu hun dinistrio'r ormes. Os na, fe droiff ryddhawyr yn ormeswyr eu hun. Rhan hanfodol o arfer anarchwyr felly yw codi ymwybyddiaeth ymysg y poblogaeth o'u hachos a gweithredu trwy grwpiau gwirfoddol (yn aml dros dro) a weithiwyd mewn modd consensws, yn debyg i'r ffordd a rhagwelwyd cymdeithasau yn gweithredu mewn cymdeithas anarchol.
Llinell 17:
 
===Cysylltiadau â Chymru===
Yng Nghymru, yn enwedig y De diwydiannol, bu gysylltiadau hanesyddol ag anarchiaeth gymdeithasol. Cymro Cymraeg (oedd yn frwdfrydig am yr iaith) yn dod o [[Gastell Nedd]] o'r enw Sam Mainwaring a greodd y derm ''anarcho-syndicalism'', ffurf poblogaidd o anarchiaeth gymdeithasol a roddir pwyslais ar undebau llafur<ref>[http://libcom.org/history/mainwaring-sam-1841-1907 libcom.com, ''Mainwaring, Sam 1841-1907'']</ref>. Mae'r traddodiad yma o anarchiaeth i'w weld yng Nghymru mewn mudiadau gweithwyr megis yr un tu ôl y pamffled ''The Miner's Next Step''. Priododd yr Americanes [[Emma Goldman]], anarchydd a ffeminydd enwog a gafodd ei chyhuddo am lofruddiaeth yr Arlywydd McKinley, glöwr o Gaerfyrddin o'r enw James Colton<ref>[http://libcom.org/history/emma-goldman-%E2%80%93-queen-anarchy-carmarthenshire-connection libcom.com, ''Emma Goldman – The Queen of Anarchy: The Carmarthenshire Connection'']</ref>. O Abertawe daw'r anarchydd Ian Bone a sefydlodd y cylchgrawn gwleidyddol ''Class War''.
 
==Gweler hefyd==