Qinghai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Danielt998 (sgwrs | cyfraniadau)
B ychwanegu gwybodlen Wiciddata
Lo Ximiendo (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
[[Delwedd:China-Qinghai.png|bawd|250px|Lleoliad Qinghai]]
 
Talaith yn rhan orllewinol [[Gweriniaeth Pobl Tsieina]] yw '''Qinghai''' ({{zh|c=青海省 ''|p=Qīnghǎi Shěng''}}). Daw'r enw o ene [[Llyn Qinghai]]. Mae'r dalaith yn ffinio ar Ranbarthau Ymreolaethol [[Sinkiang]], (Xinjiang) a [[Rhanbaeth Ymreolaethol Tibet|Tibet]] a thalaeithiau [[Gansu]] a [[Sichuan]]. Gyda phoblogaeth o 5.3 miliwn, mae'n un o daleithiau lleiaf poblog Tsieina. Y brifddinas yw [[Xining]].
 
Hen enw y dalaith oedd [[Amdo]], ac roedd yn rhan o [[Tibet]] hanesyddol. Crewyd talaith Qinghai yn 1950, wedi i Tsieina feddiannu Tibet. Cyn hynny, roedd rhan o'r hyn sy'n awr yn rhan ogledd-ddwyreiniol y dalaith yn rhan o dalaith [[Gansu]]. Ffurfia'r [[Tibetiaid]] 23% o'r boblogaeth, gyda [[Tsineaid Han]] yn y mwyafrif gyda 54%. Grwpiau ethnig eraill yw'r [[Hui (pobl)|Hui]] (16%), [[Mongoliaid]], [[Tu (pobl)|Tu]] a'r [[Salar (pobl)|Salar]].