Dinas yn ne-ddwyrain [[Gweriniaeth Pobl Tsieina]] yw '''Shenzhen''' ([[Tsieineeg]]: {{zh|c=深圳, ''|p=Shēnzhèn''}}). Fe'i lleolir yn nhalaith [[Guangdong]] ger y ffin â [[Hong Cong]]. Tref fach oedd Shenzhen tan 1979 pan sefydlwyd [[Ardal Economaidd Arbennig]] yno.<ref name=EB>[http://library.eb.co.uk/eb/article-9067273 Shenzhen]. Encyclopædia Britannica Online Library Edition. Adalwyd 2 Rhagfyr 2012.</ref> Heddiw, mae ganddi boblogaeth o tua 10,357,938. Mae ganddi [[porthladd|borthladd]] mawr, [[maes awyr]] rhyngwladol, sawl [[prifysgol]] a llawer o [[ffatri|ffatrïoedd]].<ref name=EB/>