Betty Paoli: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{{Gwybodlen person/Wicidata|fetchwikidata=ALL|onlysourced=no|suppressfields=dinasyddiaeth|nationality={{banergwlad|Awstria}}|dateformat=dmy}} Awdur|Awd...'
 
Llinell 9:
Addysgu ei hun wnaeth Babette i bob pwrpas a daeth yn ddarllenwr brwd. Gadawodd ei mam hi yn [[Hwngari]] gyda theulu gramadegwr o'r enw Schmidt, a fu'n ei thiwtora mewn ieithoedd modern. Daeth yn hyddysg yn [[Saesneg]], Ffrangeg ac [[Eidaleg]]. Yma y penderfynodd y byddai'n ennill ei bywoliaeth ei hun. Gweithiodd Babette fel gwniadwraig er mwyn ei chadw hi a'i mam hyd nes iddi dderbyn swydd fel athrawes gartref ar draws y ffin yng Ngwlad Pwyl Rwsaidd. Yn 1830 neu 1831 gadawodd Fienna gyda'i mam. Ond roedd ar Theresia hiraeth am ei chartref ac yn y diwedd penderfynasant ddychwelyd gan groesi'r ffin i Galisia Awstraidd. Cafodd Theresia ei tharo'n wael ar y daith a bu farw mewn pentref Galisaidd. Arhosodd Babette Glück yn Galisia nes yr oedd yn 20, gan weithio i lenwi'r bylchau yn ei haddysg. Astudiodd Saesneg ac ymgyfarwyddodd gyda gweithiau yr Arglwydd Byron. Dychwelodd i Fienna yng ngwanwyn 1935 lle dechreuodd gyfansoddi o ddifri. Yn 1949 ymgymerodd â swydd dros dro fel cydymdeithes i Iarlles Bünau yn Daln ger Dresden. Yn ystod y cyfnod hwn bu ar ymweliad tri mis â Ffrainc lle bu'n gweithio fel awdur ar ei liwt ei hun ar gyfer y Neue Free Presse er mwyn cynnal ei hun. Yn dilyn hyn, fe'i cyflogwyd hi gan Madame Bagréef-Speranski fel cydymdeithes. Ar yr un pryd, daeth yn adolygydd theatr ar gyfer yr Hofberg, gan adolygu arddangosiadau celf misol. Parhaodd i fod yn adolygydd celf a theatr nes 1860, a bu hefyd yn gyfrifol am ddylanwadu ar yrfaoedd actorion megis Josef Lewinsky.
 
Yn ystod yr 1830au roedd ei cherddi yn canolbwyntio'n bennaf ar faterion cymdeithasol. Mabwysiadodd y ffugenw llenyddol 'Paoli' yn wreiddiol ar gyfer cyhoeddi'r stori fer 'Clary ' yn Wiener Zeitschrift gan Friedeich Witthauer. Cyhoeddodd nifer o gyfrolau rhwng yr 1840au a throad y ganrif gyda nifer o'i gweithiau yn canolbwyntio ar faterion merched; ysgrifennodd draethodau am ei phrofiodau hi o gasineb tuag at ferched er mwyn dadansoddi materion cymdeithasol ehangach. Cyfansoddoai gerddi yn ogystal lle byddai'n gwyrdroi metafforau oedd yn benodol yn perthyn i un rhyw. Canmolwyd ei barddoniaeth yn fawr gan Alfred Meissner a Moritz Hartmann. Yn ddiwerddarach, mabwysiadodd ffugenw arall - Branitz - a ddefnyddid ganddi er mwyn cyfieithu [[Drama|dramâu]] o [[Ffrangeg]]. Yn 1855 symudodd i fyw gyda Ida von Fleischl-Marxow; roedd y teulu Fleischl yn agos iawn ati ac fe'i mabwysiadwyd yn rhan o'r teulu. Parhaodd i fyw gyda hwy nes ei marwolaeth yn 1894.<ref>{{cite book|last1=Rose|first1=Ferrel|title=Major Figures of Nineteenth-Century Austrian Literature: Betty Paoli|date=1998|publisher=Ariadne Press|location=Riverside, California}}</ref>
 
== Cyfeiriadau ==