Notre-Dame de Paris: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
amrywiol
ehangu paragr 1
Llinell 2:
Eglwys gadeiriol ym [[Paris|Mharis]] yw '''Notre-Dame de Paris''' ([[Ffrangeg]]: ''Ein Harglwyddes o Baris''). Saif ar ynys o'r enw [[Île de la Cité]] yn [[Afon Seine]]. Mae'n un o [[Safleoedd Treftadaeth y Byd]] [[UNESCO]].
 
Cychwynwyd adeiladu'r gadeirlan yn 1160 a roedd y rhan fwyaf wedi ei gwblhau erbyn 1260, er fe'i addaswyd yn aml yn y canrifoedd ers hynny. Yn y 1790au halogwyd yr adeilad yn ystod [[Chwyldro Ffrainc]] pan ddinistrwyd neu difrodwyd ei ddelweddau crefyddol. Yn fuan wedi cyhoeddi nofel [[Victor Hugo]] ''Notre-Dame de Paris'' yn 1831, cododd ddiddordeb cyhoeddus yn yr adeilad unwaith eto. Cychwynodd gynllun mawr i adfer yr adeilad gan [[Eugène Viollet-le-Duc]] yn 1845 a barhaodd am 25 mlynedd. Cafwyd cyfnod arall o lanhau ac adfer yn 1991–2000.<ref name="notredamedeparis.fr">{{cite web|url=http://www.notredamedeparis.fr/la-cathedrale/histoire/historique-de-la-construction|title=History of the Construction of Notre Dame de Paris|language=fr}}</ref>
 
==Tân 2019==
[[FileDelwedd:Notre Dame on fire.jpg|bawd|chwith|Y tân yn Notre-Dame, 15 Ebrill 2019]]
 
Ar brynhawn 15 Ebrill 2019, cychwynodd tân yn nho'r adeilad a ledodd yn gyflym gan achosi difrod sylweddol. Dinistrwyd y to pren a dymchwelodd y prif feindwr. Gwnaed difrod sylweddol i'r adeilad ond achubwyd y prif strwythur a'r tri ffenest rhosyn enwog wedi eu gwneud o [[Gwydr lliw|wydr lliw]] yn dyddio nôl i 1225. Achubwyd nifer fawr o weithiau celf a chreiriau o du fewn y gadeirlan.