Cynsail barnwrol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Beca (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'bawd|Mi fydd cynsail rhwymedig yn rhwymo bob llys o'i dan. Cynsail Barnwrol yw penderfyniadau barnwyr wrth ddelio â...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 10:07, 14 Ebrill 2011
Cynsail Barnwrol yw penderfyniadau barnwyr wrth ddelio âg achos. Gyda'r fath yma o benderfyniad, mae rhaid i farnwyr arall eu dilyn; daw'r cynsail yn gyfraith achos.
Syniad o Gynsail
Y wireb Lladin stare decisis (stare decisis et non quieta movere) sydd yn gefnogi'r rheswm a syniad dros gynsail. Yn syml, mae'r wireb yn golygu i sefyll wrth y benderfyniad, ac i beidio'i fynd yn erbyn.
Rheswm y Gynsail
Gelwir y rheswm dros gynsail ratio decidendi. Wireb Lladin arall yw hon, sydd yn golygu yr hyn sydd yn creu'r cynsail. Ar gyfer y pethau arall a ddwedwyd, y term a ddefnyddiwn yw obiter dicta. Ambell waith, mi fydd y barnwr yn creu nodiadau sydd yn esbonio beth gall wedi digwydd os oedd ambell ffaith yn yr achos wedi bod yn wahanol.
Hierarchaeth
Mae cynsail yn dibynnu ar y fath o lys a chafodd ei chreu. Os mae'r Llys Barn Ewropeaidd yn creu cynsail, mi fydd rhaid i bob llys arall ei ddilyn; y Llys Barn Ewropeaidd yw'r llys mwyaf pwysig. Os mae'r Llys y Goron yn creu cynsail, mi fydd rhaid i'r Llys Ynadon ei ddilyn, ond ni fydd rhaid i'r Llys Barn Ewropeaidd ei ddilyn.
Datganiad Practis
Pwrpas y Datganiad Practis yw i wneud yn siwr bod y llysoedd yn dilyn eu cyn-benderfyniadau - er hynny, mae'r datganiad hefyd yn rhoi'r hyblygiad i farnwyr gwrthod defnyddio cynsail os y mae'n dangos yn anheg. Cafodd cynsail ei ddefnyddio yn achos R Addie & Sons v Dumbreck (1929) - er hynny, yn ystod achos Herrington v British Railways Board (1972), fe wnaeth y barnwr defnyddio'r Datganiad Practis er mwyn newid y gyfraith, a sicrhau bod tegrwydd wrth ddelio â'r achos.
Mathau o Gynsail
Cynsail Rhwymol
Os oes cynsail yn dod o lys uwch, mi fydd rhaid i'r llys sydd yn delio a'r achos dilyn y gynsail yna. Mi fydd y gynsail yma yn rhwymo bob llys o dan y lys a benderfynodd creu'r gynsail.
Cynsail Gwreiddiol
Fel mae'r enw yn dyfarnu, y cynsail gwreiddiol yw hyn - sef y cynsail gyntaf i gael ei chreu ar gyfer y fath achos. Gall y llys sydd wedi creu'r cynsail dewis os dyle'r cynsail dod yn rhwymedig ar gyfer y llysoedd o'r dan neu beidio.
Cynsail Perswadiol
Os nad oes cynsail yn rhwymedig, weithiau gall barnwr dal i'w ddefnyddio. Oherwydd mae'r cynsail ambell waith yn perswadio barnwr i'w defnyddio, dyma lle daeth yr enw.
Manteision ac Anfanteision
Er bod cynsail yn cynnig cysondeb, cywirdeb, a sicrwydd i'r gyfraith, mae nhw hefyd yn gallu bod yn anhyblyg iawn. Os oes barnwr yn credu bod cynsail rhwymedig yn anheg, mae rhaid i'r barnwr ei ddefnyddio os oes llys uwch wedi'i greu. Gall hyn arwain at ganlyniad afresymol ac anheg. Mae cynsail yn araf iawn i'w newid; er mwyn newid cynsail, mi fydd rhaid i'r llys aros ar gyfer achos tebyg codi cyn ceisio'i newid.