Shwmae, Beca! Croeso mawr i Wicipedia — y gwyddoniadur rhydd. Message in English | Message en français
Diolch am ymuno â Wicipedia ac am eich cyfraniadau diweddaraf — fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma.
Prosiect amlieithog i greu gwyddoniadur rhydd yw Wicipedia. Fe sefydlwyd y fersiwn gwreiddiol yn Saesneg yn 2001, a'r fersiwn Cymraeg yn 2003, a bellach mae 281,402 erthygl gennym. Rhowch gynnig ar y dolenni defnyddiol isod, a dysgu sut gallwch chi olygu unrhyw erthygl o ganlyniad. A chofiwch — dyfal donc a dyr y garreg.
Y Caffi
Tudalen i ofyn cwestiynau ynglŷn â Wicipedia.
Cymorth
Cymorth ynglŷn â defnyddio Wicipedia.
Porth y Gymuned
Gwelwch beth sy'n mynd ymlaen a beth
sydd angen gwneud yma.
Golygu ac Arddull
Sut i olygu erthygl ac arddull erthyglau.
Hawlfraint
Y rheolau hawlfraint yma.
Cymorth iaith
Cymorth gyda'r iaith Gymraeg.
Polisïau a Chanllawiau
Rheolau a safonau a dderbynnir gan y gymuned.
Cwestiynau Cyffredin
Y cwestiynau cyffredin a ofynnir gan ddefnyddwyr.
Tiwtorial a'r Ddesg Gyfeirio
Dysgu sut i olygu cam wrth gam gyda'r Tiwtorial,
a chyflwynwch eich cwestiynau wrth y Ddesg Gyfeirio.
Y Pum Colofn
Egwyddorion sylfaenol y prosiect.

Dyma eich tudalen sgwrs lle gallwch dderbyn negeseuon gan Wicipedwyr eraill. I adael neges i Wicipedwr arall, dylech ysgrifennu ar dudalen sgwrs y defnyddiwr gan glicio ar y cysylltiad iddi, ac wedyn clicio ar y tab "sgwrs".

Ar ddiwedd y neges mewn tudalennau sgwrs (fel yr un yma), gadewch ~~~~, a bydd y cod yma yn gadael stamp eich enw ac amser gadael y neges. Os ydych am gael cymorth gan weinyddwyr, rhowch y nodyn {{Atsylwgweinyddwr}} ar eich tudalen sgwrs.

Fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma,
Y Wicipedia Cymraeg


Cofion cynnes,

Deb 16:15, 1 Ionawr 2011 (UTC)Ateb

Erthyglau newydd

golygu

Helo, Beca! I'r anad dim, croeso i Wicipedia. Cymuned bach o gyfranwyr yr ydym, felly mae'n bleser mawr pan ddaw rhywun arall i gyfrannu. Un peth gwnaf ei awgrymu ydy cofio ychwanegu dolen i en neu Wici mawr arall wrth ysgrifennu erthyglau (fel y gwnaethoch gyda Sasuke Uchiha) - mae'r botiau wedyn yn gallu ychwanegu'r ieithoedd eraill. Unwaith ichi gysylltu ag en, cerwch ato ac ychwanegu'r ddolen cy hefyd. Mae'r arbed llawr o amser. Croeso eto! -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 04:17, 5 Ionawr 2011 (UTC)Ateb

Ia croeso i ti. Gan mai dy fwriad yma ydy ymarfer dy Gymrag / gramadeg, wyt ti isio imi gywiro dy dudalen Defnyddiwr a Sgwrs? Fel arfer dydy pobl eraill ddim yn cyffwrdd y dudalen hon, ond fe allwn wneud hynny, os wyt yn dymuno? Llywelyn2000 08:55, 19 Mawrth 2011 (UTC)Ateb
Dyna ni, wedi'i wneud. Cofia nad oes dim byd yn 'derfynol' am sgwennu ar Wici! Nid sgwennu ar farmor tragwyddol yden ni - nid cyhoeddiad papur na fedrir ei gywiro. Unwaith y cyhoeddir llyfr: dyna fo am byth! Fedrith John Davies fyth alw'n ol y 1,000 Gwyddoniadur a werthwyd neu hysbysu'r prynnwyr o'r holl gangymeriadau gafodd eu hargraffu yn y llyfr. Ond efo Wici mae'n wahanol: mae'n cael ei gywiro a'i wella fel mae'n tyfu - ac mae o'n adnodd mor werthfawr i blant, pobl ifanc ac oedolion - y wefan fwyaf yn y Gymraeg. Mae'n bleser cywiro dy waith - a chywira di fy ngwaith inna hefyd, plis! Dw i'n hoff iawn o gartwnau o Japan ac yn edrych ymlaen am dy erthyglau. Llywelyn2000 05:45, 20 Mawrth 2011 (UTC)Ateb

Delweddi ac hawlfraint

golygu

Helo, Beca, sut mae? Yn gyntaf, hoffwn ddweud diolch yn fawr ichi am gyfrannu at y Wicipedia Cymraeg - rydym yn gwerthfawrogi cymorth gan unrhyw un gan mai prosiect cymunedol ydyw. Wedi dweud hynny, rydych wedi bod yn uwchlwytho lluniau/delweddi nad ydynt yn cynnwys disgrifiadau digon manwl, sy'n colli ffynonellau, awdur/on, ayyb. Mae'n rhaid gwybod, felly, bod modd iddynt gael eu dileu oddi wrth y Wicipedia hwn os nad ydych yn darparu'r wybodaeth gywir - gallwch ddod o hyd i'r hyn rydych yn ei uwchlwytho drwy ddefnyddio'r offeryn yma. Diolch am eich cyd-weithrediad, -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 18:15, 25 Ebrill 2011 (UTC)Ateb

Manylion coll am File:Quasar.jpg

golygu
Annwyl uwchlwythwr: Mae manylion ar goll gyda'r ffeil yr uwchlwythoch (File:Quasar.jpg) neu mae'n colli disgrifiad a/neu fanylion eraill ar ei thudalen disgrifio. Os oes modd, ychwanegwch y wybodaeth hon. Bydd hwn yn cynorthwyo i olygyddion eraill wneud y defnydd gorau o'r ddelwedd, a bydd yn fwy addysgiadol i ddarllenwyr.

Os na roddir gwybodaeth, efallai enwebir y ddelwedd am ddilead, sy'n sefyllfa nad yw'n ddymunol, a sefyllfa y gellir ei hosgoi'n hawdd.

Os oes cwestiynu gennych, ymwelwch â'r dudalen hon. Diolch. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 21:47, 17 Mai 2011 (UTC)Ateb

-- Xxglennxx (sgw.cyf.) 21:47, 17 Mai 2011 (UTC)Ateb

Ffeiliau

golygu

Gweler eich tudalen sgwrs Defnyddiwr:Enw defnyddiwr/Ffeiliau am ragor o wybodaeth. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 18:46, 24 Mai 2011 (UTC)Ateb

Mae'r gwybodaeth ar y ffordd :) diolch am greu rhestr i mi. beca 18:52, 24 Mai 2011 (UTC)Ateb