Parthia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
B typo
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
B sillafu
Llinell 6:
 
Yn fuan wedyn daeth y Parthiaid i gysylltiad a'r [[Ymerodraeth Rufeinig]]. Bu llawer o ymladd rhwng yr ymerodraethau hyn dros y blynyddoedd. Ym [[Brwydr Carrhae|mrwydr Carrhae]] yn [[53 CC]] cafodd y Parthiaid fuddugoliaeth ysgubol, gan ladd 20,000 o filwyr Rhufeinig a chymeryd 10,000 yn gaethion. Yn
[[20 CC]], dan [[Augustus]], cytunwyd i dderbyn [[Afon Ewffrates]] fel ffin. Bu ymladd eto yn ystod teyrnasiad [[Nero]] ac ennillodd yr ymerawdwr [[Trajan]] fuddugoliaethau pwysig dros y Parthiaid a chymeryd y cyfenw "PárthicoParthicus" i'w nodi. Bu heddwch yn ystod teyrnasiad [[Hadrian]] ond yna bu ymladd eto dan [[Marcus Aurelius]] pan adenillodd y Parthiaid y tiroedd a gollasant i Trajan. Prif gryfder y Parthiaid mewn rhyfel oedd eu marchogion.
 
Yn ystod y ganrif gyntaf a'r ail OC, gwanychwyd ymerodraeth y Parthiaid gan ryfeloedd catref. Yn [[200]] cododd y Persiaid mewn gwrthryfel dan [[Ardashir I]], ac yn [[224]] lladdwyd Artaban V, brenin olaf y Parthiaid. Coronwyd Ardashir yn frenin, a sefydlwyd tŷ brenhinol y [[Sassanid]].