Heddlu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
dolen
Llinell 50:
 
 
Yn 1754 bu Henry farw ond roedd ei frawd John wedi ymuno gyda fe yn y gwaith ychydig flynyddoedd yn gynt. Cyflwynodd John agweddau eraill i waith Rhedwyr Bow Street.  Ar ddechrau’r 1760au sefydlodd Batrol Ceffylau Bow Street er mwyn taclo problem cynyddol y [[Lleidr penffordd|lladron penffordd]] ar yr hewlydd o gwmpas Llundain ac mi ddatblygodd Bow Street i fod yn ganolfan wybodaeth.  Rhan o’r gwaith yma oedd cyhoeddi yn 1786 papur newydd  wythnosol o’r enw ''The Hue and Cry'', sef papur wythnosol a oedd yn dosbarthu manylion am droseddwyr neu eiddo oedd wedi ei ddwyn. Roedd Henry Fielding yn credu’n gryf mai gwaith y Rhedwyr oedd nid yn unig ymateb i droseddau a gyflawnwyd ond hefyd i atal troseddau rhag digwydd.