Adeilad yn dyddio o Oes yr Haearn a geir yng ngogledd yr Alban yw Broch. Maent ar ffurf tyrrau crwn, ac yn ôl pob tebyg roedd to arnynt yn wreiddiol. Y farn draddodiadol oedd mai pwrpas amddiffynnol oedd iddynt, ond mae rhai archaeolegwyr yn amau hyn.

Broch
Daearyddiaeth
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Broch Dun Carloway, ar ynys Leòdhas.

Rhestrodd yr RCAM 571 o safleoedd y gellid eu hystyried fel broch yn yr Alban. Ceir y rhan fwyaf ar ynysoedd Shetland, Ynysoedd Erch, Ynysoedd Heledd a gogledd tir mawr yr Alban, Caithness a Sutherland, er bod rhai esiamplau ymhellach i'r de.

Ymhlith yr esiamplau mwyaf adnabyddus mae Dun Carloway, ar ynys Leòdhas yn Ynysoedd Allanol Heledd a Broch Mousa ar ynys Mousa yn ynysoedd y Shetland.