Derrick Morris (tua 193030 Gorffennaf 2005) o Abertawe. Ar ddyddiad ei farwolaeth, fe oedd y claf oedd wedi goroesi hwyaf yn Ewrop ar ôl cael trawsblaniad calon. Cafodd y driniaeth yn Ysbyty Harefield yn Middlesex gan yr Athro Magdi Yacoub yn 1980. Cyfrannwyd y galon newydd gan ddynes a laddwyd mewn damwain car.[1][2][3][4]

Derrick Morris
Ganwyd24 Mawrth 1930 Edit this on Wikidata
Bu farw30 Gorffennaf 2005 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethstevedore Edit this on Wikidata

Arferai weithio fel goruchwyliwr yn nociau Abertawe pan gafodd drawiad ar y galon yn 1975.[5][6] Wedi'r driniaeth, dychwelodd i weithio yn y dociau. Ef oedd yr 11eg person i dderbyn trawsblaniad calon yng ngwledydd Prydain. Wedi 20 mlynedd o oroesi, wedi dyddiad y trawsblaniad, ef oedd yn dal y record goroesiad hiraf drwy Ewrop.[7]

Yn dilyn y driniaeth lwyddiannus, bu Derrick Morris ym ymgyrchu yn ddiflino i hybu prosiectau a oedd yn ymladd clefyd y galon, gan annog pobl i arwyddo cerdyn caniatad i roi eu calon i eraill pe byddent yn marw mewn damwain.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Record survivor of heart transplant dies". The Telegraph. 2 Awst 2005. Cyrchwyd 21 Chwefror 2013.
  2. "Longest-living heart transplant patient dies". walesonlink.co.uk. 31 Mawrth 2013. Cyrchwyd 19 Ebrill 2019.
  3. McWhirter, Norris; McWhirter, Ross (1994). The Guinness Book of Records. Guinness Superlatives (yn English). Bantam paperback. t. 72. ISBN 0553541358. ISBN 978-0553541359.CS1 maint: unrecognized language (link)
  4. Heartzine.com "Longest-surviving Heart Transplant Patient Has Died", 4 August 2005. Adalwyd 21 Chwefror 2013 Archifwyd 11 April 2013 yn Archive.is
  5. Simon de Bruxelles (2 Awst 2005), "Pioneer heart patient dies after 25 years", The Times, https://www.thetimes.co.uk/article/pioneer-heart-patient-dies-after-25-years-wr8rn909jtf
  6. "Derrick Morris". To Transplant and Beyond. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-09-06. Cyrchwyd 28 Tachwedd 2016.
  7. "BBC News - WALES - Transplant man celebrates 20th anniversary". news.bbc.co.uk. BBC.