Abertawe

dinas yn Ne Cymru

Dinas yn ne Cymru, ar aber Afon Tawe yw Abertawe (Saesneg: Swansea). Ail ddinas fwyaf Cymru o ran maint ydyw, ar arfordir deheuol y wlad, i'r dwyrain o Benrhyn Gŵyr. Tyfodd yn dref fawr yn ystod y 18fed a'r 19fed canrif. Mae sir weinyddol Abertawe tua 378 km² mewn maint, ac mae'n cynnwys rhan isaf Cwm Tawe a Gŵyr.

Abertawe
ArwyddairFloreat Abertawe Edit this on Wikidata
Mathdinas, dinas fawr Edit this on Wikidata
Poblogaeth245,508 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1158 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Mannheim, Ferrara, Corc, Nantong, Pau, Wuhan, Bydgoszcz Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAbertawe Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd390,000,000 m² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.6167°N 3.95°W Edit this on Wikidata
Cod OSSS6593 Edit this on Wikidata
Cod postSA1-SA7 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJulie James (Llafur)
Mike Hedges (Llafur)
AS/auGeraint Davies (Llafur)
Carolyn Harris (Llafur)
Map
Pwnc yr erthygl hon yw dinas Abertawe. Am ddefnydd arall o'r enw Abertawe gweler y dudalen wahaniaethu ar Abertawe.

Yn 2017, roedd gan y ddinas boblogaeth o 245,500[1], gan ei gwneud hi'n ail ddinas mwyaf poblog Cymru ar ôl Caerdydd. Yn ystod ei hanterth diwydiannol yn ystod y 19eg ganrif, roedd Abertawe yn ganolfan allweddol i'r ddiwydiant copr, gan fagu'r llysenw 'Copperopolis'.[2]

Hanes golygu

 
View of Swansea and railway bridge c.1850

Yn gyffredinol, mae darganfyddiadau archeolegol wedi'u cyfyngu i Benrhyn Gŵyr, ac maent yn cynnwys eitemau o Oes y Cerrig, yr Oes Efydd a'r Oes Haearn. Ymwelodd y Rhufeiniaid a'r ardal, yn ogystal a'r Llychlynwyr.

Yn wreiddiol, datblygodd Abertawe fel man masnachu i'r Llychlynwyr, ac yn gyffredinol credir i enw Saesneg y ddinas darddu o "Sweyn's Ey" ("ey" oedd gair yr Hen Lychlynwyr am "ynys"). Fodd bynnag, nid oes ynys ym Mae Abertawe, ac felly mae'n bosib hefyd fod yr enw wedi dod o 'r gair "Sweyn" (newidiad o'r enw Llychlynaidd "Sven") a "sey" (gair yr Hen Lychlynwyr a olygai "inlet"). Credir mai sylfaenydd Abertawe oedd brenin Llychlynaidd Denmarc, Sweyn I, a drechodd Eingl-Sacsoniaid Wessex a Mersia yn 1013, ac a deyrnasodd dros ymerodraeth fawr a oedd yn cynnwys de Lloegr, Denmarc a Norwy. Y fersiwn cynharaf o'r enw a wyddir amdano yw Sweynesse, a ddefnyddiwyd yn y siarter gyntaf a roddwyd rhyw bryd rhwng 1158-1184 gan William de Newburgh, 3ydd Iarll Warwick. Rhoddodd i siarter hwn statws bwrdeistref i Abertawe, gan alluogi trigolion y dref hawliau penodol i ddatblygu'r ardal. Rhoddwyd ail siarter yn 1215 gan y Brenin Ioan. Yn y siarter hwn, ymddengys yr enw fel Sweyneshe. Mae sêl trefol o'r cyfnod hwn yn enwi'r dref fel Sweyse.[3] Ymwelodd Gerallt Gymro ag Abertawe yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188.Ymddengys yr enw Cymraeg am y tro cyntaf mewn cerddi Cymraeg ar ddechrau'r 13g, lle sonir am "Aber Tawy".

Yn wreiddiol, arferai porthladd Abertawe fasnachu mewn gwin, gwlan, ffabrig ac yn ddiweddarach, glo. Wrth i'r Chwyldro Diwydiannol gyrraedd Cymru, ystyriwyd Abertawe yn lleoliad synhwyrol i leoli safle mwyndoddfeydd copr oherwydd y cyfuniad o borthladd, glo lleol a chysylltiadau masnachu gyda De-orllewin Lloegr, Cernyw a Dyfnaint. Gweithredodd mwyndoddfeydd yno o 1720 ymlaen. Yn sgîl hyn, agorwyd mwy o byllau glo (ymhobman o ogledd-ddwyrain Gŵyr o Clun i Langyfelach a gwelwyd mwy o fwyndoddfeydd, yn bennaf yng Nghwm Tawe. Dros y ganrif a hanner a ddilynodd, sefydlwyd gweithfeydd i brosesu arsenig, sinc, a thun ac er mwyn creu tunplat a chrochenwaith. Ehangodd y ddinas yn gyflym iawn yn y 18fed a'r 19g a chafodd y ddinas y ffugenw "Copperopolis".[4]

O ddiwedd yr 17g tan 1801, tyfodd poblogaeth Abertawe o 500% - dengys y cyfrifiad swyddogol cyntaf (ym 1841) fod Abertawe dipyn yn fwy o ran maint na thref sirol Morgannwg, Caerdydd, gyda phoblogaeth o 6,099 o drigolion. Abertawe oedd yr ail dref fwyaf poblog ar ôl Merthyr Tudfil (lle'r oedd poblogaeth o 7,705). Fodd bynnag, nid oedd y cyfrifiad yn adlewyrchu gwir faint Abertawe, am fod rhannau helaeth o'r ardaloedd poblog tu allan i ffiniau'r fwrdeistref; cyfanswm y boblogaeth mewn gwirionedd oedd 10,117. Gellir priodoli llawer o dŵf poblogaeth Abertawe i fewnlifiad tu fewn a thu hwnt i Gymru. Ganwyd traean o boblogaeth y fwrdeistref tu allan i Abertawe a Morgannwg, ac ychydig o dan chwarter wedi eu geni tu hwn i Glawdd Offa.[5]

 
Y Stryd Fawr gyda Theatr y Palas yn y cefndir, ym 1915

Yn ystod yr 20g, lleihaodd y diwydiannau trymion yn y dref, gan adael Cwm Tawe Isaf yn llawn gweithfeydd gwag a phentyrrau o wastraff o'r hen safleoedd. Ail-ddatblygwyd rhannau helaeth o'r tir yng Nghynllun Cwm Tawe Isaf (sy'n parhau o hyd). Ystad Ddiwydiannol Llansamlet oedd y canlyniad, a dim ond dociau tu allan i'r ddinas a barhaodd i fod yn weithredol. Bellach mae Doc y Gogledd yng nghanol y ddinas wedi newid i fod yn ganolfan siopa Parc Tawe tra bod Doc y De wedi ei gweddnewid i fod yn Farina Abertawe.

Ar 27 Mehefin 1906, trawodd un o'r daeargrynfeydd fwyaf erioed y Deyrnas Unedig ddinas Abertawe, gyda chryfder o 5.2 ar Raddfa Richter. Pur anaml y bydd daeargrynfeydd yn achosi difrod yn y DU am fod y mwyafrif yn digwydd ymhell o'r ardaloedd poblog, ond pan drawodd y daeargryn Abertawe, achoswyd difrod i nifer o'r adeiladau talaf.

Derbyniodd Abertawe statws dinas ym 1969 i nodi arwisgiad Tywysog Cymru. Gwnaed y cyhoeddiad gan y tywysog ar y 3ydd o Orffennaf, 1969 tra'n teithio yng Nghymru. Cafodd y ddinas yr hawl i gael arlgwydd faer ym 1982.

Ychydig iawn o dystiolaeth a welir o fywyd Canol Oesol Abertawe.

Yr Ail Ryfel Byd golygu

Effeithiwyd y dref yn ddrwg gan fomiau'r Almaen, yn yr Ail Ryfel Byd. Amcan y bomio oedd dinistrio'r dociau ond canol y dref a ddioddefodd y difrod mwyaf. Ym mis Chwefror 1941, yn ystod y Blitz, bomiodd 250 o awyrennau Abertawe gan ladd 400 o bobl. Roedd y fflamau i'w gweld mor bell i ffwrdd â Sir Benfro a Dyfnaint. Ysgrifennodd y bardd Waldo Williams gerdd am y bomio, sef 'Y Tangnefeddwyr' ('yr heddychwyr').

Canol y ddinas golygu

 
Basn Tawe

Mae Canol Dinas Abertawe wedi datblygu cryn dipyn. Mae gan y ddinas dair adeilad cofrestredig Graddfa I, sef y Guildhall, Castell Abertawe a Thabernacl Treforys. Yng nghanol y ddinas, ceir adfeilion y castell, y Marina, Oriel Gelf Glynn Vivian, Amgueddfa Abertawe, Canolfan Dylan Thomas, Canolfan Amgylcheddol Abertawe a'r Farchnad, sef marchnad dan-do fwyaf Cymru. Mae'r farchnad yn cefnu ar ganolfan siopa'r Quadrant a agorodd ym 1978 a Chanolfan Dewi Sant a agorodd ym 1982. Mae adeiladau nodedig eraill yn cynnwys Tŵr BT, Abertawe a adeiladwyd tua 1970, Tŷ Alexandra a adeiladwyd ym 1976, Neuadd y Sir a adeiladwyd ym 1982. Agorodd Canolfan Hamdden Abertawe ym 1977; derbyniodd wedd-newidiad sylweddol ar ddechrau'r 21ain ganrif ac ail-agorodd ym mis Mawrth 2008. Tu ôl y Ganolfan Hamdden, saif Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a agorodd ym mis Hydref 2005.

Hinsawdd golygu

Mae gan Abertawe hinsawdd cymhedrol sydd yn nodweddiadol o orllewin y Deyrnas Unedig. Fel rhan o'r ardal arfordirol, mae Abertawe yn profi tymheredd ychydig cynhesach na'r ardaloedd mynyddig neu yn y dyffrynoedd ymhellach i mewn i'r wlad. Serch hynny, mae Abertawe'n agored i wyntoedd gwlyb yr Iwerydd:dengys ffigyrau o'r Swyddfa Dywydd mai Abertawe yw'r ddinas wlypaf ym Mhrydain. Ganol Haf gall y tymheredd yn Abertawe gyrraedd yr ugeiniau uchel (graddau canradd), yn dibynnu ar y tywydd; y tymheredd uchaf a recordiwyd yn Abertawe oedd 31.6 °C ym 1980.

Mis Ion Chwe Maw Ebr Mai Meh Gor Aws Med Hyd Tach Rhag Blwyddyn
Uchafbwynt cyfartalog °C 6 6 9 11 15 17 19 18 16 13 9 8
Cyfartaledd °C 6 6 8 10 13 16 18 17 15 12 8 7
Isafswm cyfartalog °C 4 4 7 8 12 14 16 16 13 11 8 6
Glawiad cm 7.07 5.19 4.51 4.91 3.63 4.22 5.07 5.03 5.53 8.08 7.09 7.11 67.44
Sources: uk.weather.com,[6] MSN News & Weather[7]

Demograffeg golygu

Roedd poblogaeth Abertawe yn yr ardaloedd adeiledig o fewn ffiniau'r awdurdodau unedol tua 179,485 yn 2011, a 238,700 oedd poblogaeth y cyngor. Gorseinon a Phontarddulais yw'r ardaloedd adeiledig eraill o fewn yr awdurdod unedol.Yn 2011, roedd gan ardal adeiledig Gorseinon boblogaeth o 20,581 ac roedd gan Bontarddulais boblogaeth o 9,073.[8] Fodd bynnag, mae gan yr ardal drefol ehangach, gan gynnwys y rhan fwyaf o Fae Abertawe, gyfanswm poblogaeth o 300,352 (gan ei gwneud hi'n bedwaredd ardal drefol ar hugain fwyaf yng Nghymru a Lloegr).[9] Mae dros 218,000 o'r trigolion yn wyn; 1,106 o hil gymysg; 2,215 yn Asiaidd - yn bennaf Bangladeshi (1,015); 300 yn ddu; a 1,195 yn perthyn i grwpiau ethnig eraill.[10]

Ganed tua 82% o'r boblogaeth yng Nghymru ac 13% yn Lloegr;[11] gydag 13.4% o'r boblogaeth yn siaradwyr Cymraeg.[12]

O 1804 tan y 1920au, profodd Abertawe dwf parhaol yn ei phoblogaeth. Roedd y 1930au a'r 1940au yn gyfnod o ddirywiad bychan. Yn y 1950au a'r 1960au tyfodd y boblogaeth ac yna syrthiodd yn y 1970au. Tyfodd y boblogaeth eto yn y 1980au, cyn ostwng eto yn y 1990au. Erbyn y 2000au, profodd ychydig o dwf yn y boblogaeth eto. Erbyn 2007 poblogaeth yr ardal oedd 228,100,[13] ac erbyn 2011 y boblogaeth oedd 239,000.

Adloniant a thwristiaeth golygu

 
Tŵr BT, Abertawe

Defnyddir traethau Langland, Caswel a Limeslade gan nofwyr a thwristiaid â phlant, tra bod traeth Bae Abertawe yn denu pobl sydd â diddordeb mewn chwaraeon dŵr. Cysyllta llwybrau cerdded arfordirol y rhan fwyaf o gilfachau Penrhyn Gŵyr â Bae Abertawe ei hun, a denir cerddwyr i'r rhan hon o'r wlad trwy gydol y flwyddyn. Er nad yw'n enwog ymhlith twristiaid, mae ardaloedd yng ngogledd Abertawe yn cynnig golygfeydd panoramig amrywiol o dirweddau mynyddog. Yn hen bentref pysgota'r Mwmbwls (sydd wedi ei leoli ar ochr orllewinol Bae Abertawe), ceir pier Fictorianaidd ynghyd â nifer o fwytai, tafarndai a siopau coffi. Ceir golygfa banoramig o Fae Abertawe o'r promenad. Ym Mehefin 2015 rhoddwyd caniatâd cynllunio i godi Lagŵn Bae Abertawe, sef cynllun i harneisio ynni carbon isel ym Mae Abertawe a fydd y mwyaf o'i fath drwy'r byd ar ôl ei gwbwlhau.[14] Disgwylir y bydd y prosiect yn cynhyrchu £76 miliwn o bunnoedd, sy'n cynnwys elfen gref o dwristiaeth.

Atyniadau golygu

Ar lan y môr, mae gan Fae Abertawe arfordir o bum milltir (8 km) sy'n cynnwys y traeth, promenad, pwll nofio awyr agored i blant, canolfan hamdden, marina sy'n cynnwys yr amgueddfeydd mwyaf newydd a'r hynaf yng Nghymru - Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ac Amgueddfa Abertawe. Yn y marina hefyd y lleolir Canolfan Dylan Thomas sy'n dathlu bywyd a gwaith yr awdur gydag arddangosfa parhaol o'r enw 'Dylan Thomas - Man and Myth'. Y ganolfan hon hefyd yw canolbwynt Gŵyl Flynyddol Dylan Thomas (27 Hydref - 9 Tachwedd). SA1 Glannau Abertawe yw'r datblygiad diweddaraf ar gyfer cartrefi, bwyta ac adloniant. Mae Bae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr yn gartref i amrywiaeth o barciau a gerddi a cheir yno bron i 20 warchodfa natur. Mae Gerddi Clun hefyd yn gartref i gasgliad o blanhigion a chynhelir 'Clyne in Bloom' yno ym mis Mai. Mae gan Barc Singleton erwau o dir agored, gardd fotaneg, llyn cychod gyda chychod pedlo, a golff gwallgo'. Mae Plantasia yn byramid gwydr sy'n cynnwys planhigion amrywiol, gan gynnwys mathau sydd wedi diflannu yn y gwyllt. Ceir yno fwncïod, reptiliaid, pysgod a thŷ ieir bach yr haf. Mae parciau eraill y ddinas yn cynnwys Parc Cwmdonkin, lle chwaraeodd Dylan Thomas pan yn blentyn a Pharc Fictoria, Abertawe sydd yn agos i'r promenad ar lan y mor.

Gweithgareddau golygu

Mae gan Abertawe ystod eang o weithgareddau yn cynnwys hwylio, sgïo dŵr, syrffio a chwareon dŵr eraill, cerdded a beicio. Ym mis Medi 2012, agorwyd canolfan Chwaraeon Dŵr o'r enw "360" ger San Helen ar lan y môr, ar gost o £1.4 miliwn.[15] Yn rhan o'r Lôn Geltaidd a Rhwydwaith Feicio Cenedlaethol, cynigia Abertawe lwybrau beicio di-draffig ar hyd y glannau a thrwy Barc Gwledig Dyffryn Clun. Ceir sawl cwrs golff ym Mae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr hefyd.

Cyn iddo gau yn 2003, roedd Canolfan Hamdden Abertawe yn un o'r deg atyniad mwyaf poblogaidd yn y DU; cafodd ei ail-ddatblygu fel parc dŵr dan-do a'i ail-farchnata fel yr 'LC'. Cafodd ei agor yn swyddogol gan Frenhines Elizabeth II ar y 7fed o Fawrth, 2008. Lleolir Pwll Cenedlaethol Cymru yn Abertawe hefyd.

Bywyd nos golygu

Mae gan Abertawe ystod eang o dafarndai, bariau, clybiau, bwytai a dau gasino. Lleolir y mwyafrif o fariau'r dref ar Stryd y Gwynt, tra bod y mwyafrif o glybiau nos, gan gynnwys Oceana wedi'u lleoli ar y Ffordd y Brenin. Mae Milltir y Mwmbwls, a gafodd ei ddisgrifio gan y BBC fel "pub crawls" enwocaf Cymru, wedi lleihau yn ei boblogrwydd dros y blynyddoedd diwethaf, gyda nifer o'u tafarnai wedi'u trosi'n fflatiau neu'n fwytai.

Traethau golygu

Yn 2007, enwyd Bae Oxwich ar Benrhyn Gŵyr fel y traeth mwyaf prydferth yn y Deyrnas Unedig gan ysgrifenwyr teithio a oed wedi ymweld â thros 1,000 o draethau ledled y byd er mwyn dod o hyd i'r tywod perffaith. Canmolodd The Travel Magazine Oxwich am ei golygfeydd "magnificent and unspoilt", gan ei ddisgrifio fel "man gwych i oedolion a phlant i ddarganfod".[16] Mae gan y traeth dair milltir (5 km) o dywod euraidd, meddal, gan ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer teuluoedd. Enwyd y traeth hefyd gan The Guardian fel un o ddeg traeth gorau'r DU.[17]

Trefn lywodraethol golygu

 
Guildhall Dinas a Sir Abertawe

Llywodraeth leol golygu

Ym 1887, roedd Abertawe yn drefgordd ger aber Afon Tawe, a orchuddiai 4,562 era yn sir Morgannwg.[18] Cafwyd tri prif estyniad i ffiniau'r fwrdeistref, ym 1835 am y tro cyntaf, pan ychwanegwyd Treforys, St.Thomas, Glandŵr a rhan o blwyf Lansamlet. Gwelwyd yr ail estyniad ym 1889, pan gynhwyswyd yr ardaloedd o amgylch Cwmbwrla a Threwyddfa, ac yna ym 1918 pan ehangwyd ymhellach i gynnwys hen blwyf Abertawe yn ei chyfanrwydd, y rhan ddeheuol o blwyf Llangyfelach, plwyf Llansamlet yn ei chyfanrwydd, ardal drefol Ystumllwynarth a phlwyf Brynau.[19]

Ym 1889, derbyniodd Abertawe statws cyngor bwrdeistref,[20] a chafodd statws dinas ym 1969. Arferai Abertawe fod yn un o fannau cryfaf y Blaid Lafur, a than 2004 roedd gan y blaid fwyafrif, ac o ganlyniad, reolaeth dros y cyngor am 24 mlynedd.[21] Bellach y Democratiaid Rhyddfrydol yw'r prif blaid o fewn y weinyddiaeth a daethant i bŵer yn etholiadau lleol 2004. Ar gyfer 2009/2010, Arglwydd Faer Abertawe oedd Cynghorydd Alan Lloyd ac am 2010/2011: Richard Lewis.

Gwleidyddiaeth Cymru golygu

Etholaethau Cynulliad Cenedlaethol yw:

Mae'r ddinas yn rhan hefyd o'r Rhanbarth Gorllewin De Cymru a chaiff ei wasanaethu gan Peter Black AC, Alun Cairns AC, Dai Lloyd AM a Bethan Jenkins AC.

Gwleidyddiaeth y DU golygu

Etholaethau Abertawe yn Senedd y Deyrnas Unedig yw:

Economi golygu

 
Canolfan Technium, un o'r adeiladau newydd a adeiladwyd fel rhan o gynllun datblygiad SA1 yn Nociau Abertawe

Yn wreiddiol, datblygidd Abertawe yn ganolfan ar gyfer mwyngloddio a metelau, yn enwedig y diwydiant copr, o ddechrau'r 18g. Cyrhaeddodd y diwydiant ei uchafbwynt yn y 1880au, pan mwyndoddwyd 60% o'r copr a fewnforiwyd i Brydain yn Nghwm Tawe Isaf.[22] Fodd bynnag, erbyn diwedd yr Ail Ryfel Byd, roedd y diwydiannau hyn wedi lleihau'n sylweddol, ac yn y degawdau a ddilynodd gwelwyd newid at economi yn y sector wasanaeth. [angen ffynhonnell]

O'r 105,900 yr amcangyfrifir sy'n gweithio yn Ninas a Sir Abertawe, cyflogir 90% yn y gwasanaethau cyhoeddus, gyda chanran gymharol uchel (o'i gymharu â chyfartaledd Cymru a'r DU) yn gweithio ym meysydd gweinyddiaeth gyhoeddus, addysg ac iechyd a bancio, cyllid ac yswiriant,[23] a chanrannau cyfatebol o uchel mewn swyddi cysylltiedig â'r sector wasanaeth, gan gynnwys galwedigaethau gweinyddol/ysgrifenyddol a gwerthiant/gwasanaethau cyhoeddus. Cred yr awdurdod lleol fod y patrwm hwn yn adlewyrchu rôl y ddinas fel canolfan wasanaeth ar gyfer De Orllewin Cymru.[23]

Yn Hydref 2009, roedd gweithgarwch economaidd a chyfraddau diweithdra Abertawe ychydig yn uwch na'r cyfartaledd Cymreig, ond yn is na chyfartaledd y DU.[23] Yn 2005, y GYC y pen yn Abertawe oedd £14,302 – bron 4% yn uwch na'r cyfartaledd Cymreig ond 20% yn is na'r cyfartaledd Prydeinig.[23] Y cyflog cyfartalog llawn-amser yn Abertawe oedd £21,577 yn 2007, a oedd bron yn union yr un peth a'r cyfartaledd Cymreig[23]

Sefydliadau golygu

Sefydliadau Addysgol golygu

Enwogion golygu

Actorion

Cantorion

Llenorion

 
Cerflun Dylan Thomas

Chwaraewyr

Gwyddonwyr

Gŵn

Gwleidyddion

Eglwyswyr

Eisteddfod Genedlaethol golygu

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe ym 1891, 1907, 1926, 1964, 1982 a 2006. Am wybodaeth bellach gweler:

Gefeilldrefi golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Population". Cyngor Abertawe. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-09-26. Cyrchwyd 2017-11-19.
  2. Hughes, S. (2000) Copperopolis: landscapes of the early industrial period in Swansea, Royal Commission on Ancient and Historical Monuments in Wales
  3. (Saesneg) "Swansea". Classic Encyclopedia. 2007. Adalwyd ar 2007-07-29.
  4. The Welsh Academy Encyclopedia of Wales. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru 2008.
  5. (Saesneg) Rosser, C. and Harris, C.C. (1998) The Family and Social Change: A Study of Family and Kinship in a South Wales Town. Routledge
  6. Ystadegau hinsawdd misol Abertawe: Abertawe, Deyrnas Unedig uk.weather.com 2007. Adalwyd ar 2007-07-25
  7. [http://weather.uk.msn.com/local.aspx?wealocations=wc:UKXX0146 Abertawe, Cymru. MSN News & Weather. 2007. Adalwyd ar 2007-07-25.
  8. Nomis: Cyfrifiad 2011
  9. "Census 2011 Usual Resident Population". Y Swyddfa Ystadegau Gwladol. 2013. Cyrchwyd 2013-07-27.
  10. "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2012-09-02. Cyrchwyd 2014-05-01.
  11. "2001 Census Socio Economic Profile" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2009-03-27. Cyrchwyd 2014-05-01.
  12. Dinas a Sir Abertawe: Poblogaeth Archifwyd 2014-07-14 yn y Peiriant Wayback.. Dinas a Sir Abertawe. 2007. Cyrchwyd 1 Mai 2014.
  13. Poblogaeth Cymru: Trosolwg Demograffig 2010
  14. www.tidallagoonswanseabay.com; adalwyd 18 Mehefin 2015
  15. Gwefan yr Evening Post 4 Mehefin 2012. Adalwyd ar 17 Hydref 2012
  16. Most beautiful beach in Britain Archifwyd 2008-06-06 yn y Peiriant Wayback.. The Travel Magazine. Adalwyd 07-07-2009
  17. 10 sandy beaches". The Guardian. Adalwyd ar 07-07-2009
  18. Swansea Glamorgan through time | Trosolwg hanes lleol ar gyfer yr ardal
  19. "Cofnodion Gwasanaeth Archifo Gorllewin Morgannwg". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-06-05. Cyrchwyd 2009-06-09.
  20. The Welsh Academy Encyclopedia of Wales. Cardiff: University of Wales Press 2008
  21. (Saesneg)Council leader resigns after defeat BBC News. 2004. Adalwyd ar 2007-07-29
  22. Jenkins, P (1992) A History of Modern Wales 1536–1990. Harlow: Longman.
  23. 23.0 23.1 23.2 23.3 23.4 "Swansea Economic Profile October 2008" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2009-03-27. Cyrchwyd 2012-04-10.

Dolenni allanol golygu

  Cyfryngau perthnasol Abertawe ar Gomin Wicimedia

 
Dinasoedd yng Nghymru
 
Abertawe | Bangor | Caerdydd | Casnewydd | Llanelwy | Tyddewi