Actor Canadaidd oedd Douglas Rain (13 Mawrth 192811 Tachwedd 2018). Er mai actor llwyfan oedd yn bennaf, roedd yn fwy enwog am ddarparu llais y cyfrifiadur HAL 9000 ar gyfer y ffilm 2001: A Space Odyssey (1968) a'i ddilyniant, 2010: The Year We Make Contact (1984).

Douglas Rain
Ganwyd13 Mawrth 1928 Edit this on Wikidata
Winnipeg Edit this on Wikidata
Bu farw11 Tachwedd 2018 Edit this on Wikidata
St. Marys Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCanada Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Theatr Old Vic, Bryste
  • Banff Centre for Arts and Creativity
  • Prifysgol Manitoba
  • Kelvin High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor llwyfan, actor ffilm, actor teledu Edit this on Wikidata
PriodMartha Henry Edit this on Wikidata
Gwobr/auDora Mavor Moore Awards Edit this on Wikidata

Bywyd a gyrfa golygu

Ganwyd Rain yn Winnipeg, Manitoba, yn fab i Mary, nyrs, a James Law, switsiwr iard rheilffordd. Roedd ei rieni yn hannu o Glasgow, yr Alban.[1] Astudiodd actio yn Ysgol y Celfyddydau Gain Banff yn Banff, Alberta, a Theatr yr Old Vic ym Mryste, Lloegr. Roedd yn aelod sefydlol o Ŵyl Stratford yng Nghanada ym 1953 a fu'n gysylltiedig ag ef fel actor llwyfan tan 1998.[2] Bu farw Rain ar 11 Tachwedd 2018, yn 90 oed yn Ysbyty Coffa St Marys yn St Marys, Ontario, o achosion naturiol.[3][4] Gadawodd tri o blant ac un wyres ar ei ôl.[5]

Perfformiodd mewn amrywiaeth eang o rannau theatrig, megis cynhyrchiad o Henry V a lwyfannwyd yn Stratford, Ontario, a addaswyd ar gyfer y teledu yn 1966.[6] Yn 1972, enwebwyd Rain ar gyfer Gwobr Tony am y Actor Cefnogol neu Nodwedd Orau (Dramatig) am ei berfformiad yn Vivat! Vivat Regina![7]

2001 golygu

I gychwyn dewiswyd Rain gan Kubrick fel adroddwr ar gyfer y ffilm 2001 ar ôl clywed ei droslais yn y rhaglen ddogfen "Universe" ac yn ddiweddarach dewiswyd ef fel llais anghynnes HAL.[8]

Ffilmyddiaeth golygu

  • Oedipus Rex (1957) — Creon
  • Just Mary (1960, Cyfres deledu) — (llais)
  • The Night They Killed Joe Howe (1960, Drama deledu, yn cyd-serennu Austin Willis a James Doohan) — Joseph Howe
  • Universe (1960, short film)[9] — Adroddwr
  • One Plus One (1961) — The Divorcee segment
  • William Lyon Mackenzie: A Friend to His Country (1961, Ffilm fer) — William Lyon Mackenzie
  • Robert Baldwin: A Matter of Principle (1961, Ffilm fer) — William Lyon Mackenzie
  • The Other Man (1963, Cyfres deledu fer) — David Henderson
  • Twelfth Night (1964, Ffilm deledu)
  • Fields of Sacrifice (1964) — Adroddwr
  • Henry V (1966, Ffilm deledu) — Henry V
  • 2001: A Space Odyssey (1968) — HAL 9000 (llais)
  • Talking to a Stranger (1971, Cyfres deledu fer) — Alan
  • Sleeper (1973; voice) — Evil Computer / Various Robot Butlers (llais, heb gydnabyddiaeth)
  • The Man Who Skied Down Everest (1974) — Adroddwr (llais)
  • One Canadian: The Political Memoirs of the Rt. Hon. John G. Diefenbaker (1976; Cyfres deledu fer; llais)
  • 2010: The Year We Make Contact (1984) — HAL 9000 (llais)
  • Love and Larceny (1985, Ffilm deledu) — Ashton Fletcher
  • The Russian-German War (1995, Video documentary) — Adroddwr (llais) (rhan ffilm olaf)

Cyfeiriadau golygu

  1. https://www.theglobeandmail.com/arts/theatre-and-performance/article-douglas-rain-stratford-actor-who-voiced-hal-9000-in-2001-a-space/
  2. Pulver, Andrew (12 November 2018). "Douglas Rain, voice of HAL in 2001: A Space Odyssey, dies aged 90". The Guardian. Cyrchwyd 2018-11-12.
  3. Gray, Andy. "Stratford Festival Founder Dies". mystratfordnow.com. mystratfordnow.com. Cyrchwyd November 11, 2018.
  4. "Douglas Rain, Voice of HAL 9000 in '2001: A Space Odyssey,' Dies at 90". Cyrchwyd 12 November 2018.
  5. "Voice actor HAL 9000 has passed away". Cyrchwyd 12 November 2018.
  6. Profile, Canadian Theatre Encyclopedia website; accessed August 2, 2018.
  7. "Voice of 2001: A Space Odyssey's Hal dies". BBC News (yn Saesneg). 2018-11-12. Cyrchwyd 2018-11-12.
  8. Johnson, Alex (2018-11-12). "Douglas Rain, the creepy voice of HAL in '2001,' dies at 90". NBC News. Cyrchwyd 2018-11-12.
  9. Ohayon, Albert. "The 1960s: An Explosion of Creativity". NFB.ca. National Film Board of Canada. Cyrchwyd November 10, 2011.

Dolenni allanol golygu