Bryste
Dinas a sir seremonïol yn Ne-orllewin Lloegr yw Bryste (Saesneg: Bristol); y sillafiad yng ngherddi'r bardd Guto'r Glyn (c.1435 – c.1493) yw Brysto[1]. Fe'i hadnabyddid hefyd fel Caerodor neu Caer Odor yn Gymraeg (gyda'r gair "odor" yn golygu "bwlch") . Mae'n agos i Fôr Hafren a phontydd Hafren ac fe'i lleolir 71 km i'r dwyrain o Gaerdydd. Mae Bryste ar ffin siroedd Caerloyw a Gwlad yr Haf, gydag Afon Avon yn eu gwahanu.
![]() | |
![]() | |
Math | dinas, dinas fawr ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Avon, Dinas Bryste |
Poblogaeth | 567,111 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Marvin Rees ![]() |
Gefeilldref/i | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 110 km² ![]() |
Uwch y môr | 11 metr ![]() |
Gerllaw | Afon Hafren, Afon Gwy, Afon Avon ![]() |
Cyfesurynnau | 51.4536°N 2.5975°W ![]() |
Cod post | BS ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Marvin Rees ![]() |
![]() | |
GeirdarddiadGolygu
Mae'r enw 'Bryste' yn dod o'r Hen Saesneg Brycgstow "lle'r bont". Mae'r "l" ar ddiwedd y ffurf Saesneg yn tarddu o un o nodweddion tafodiaith Saesneg Bryste, sef ychwanegu "l" weithiau ar ddiwedd geiriau sy'n gorffen gyda llafariad.
HanesGolygu
Mae'r ddinas wedi datblygu yn bennaf fel porthladd ac roedd masnachu caethweision yn bwysig iawn ar un adeg. Yn y 18g roedd Bryste'n ganolfan bwysig ar gyfer gwaith porslen ac yn cystadlu yn y farchnad honno â gweithfeydd Plymouth a Dresden.
Mae pont grog enwog ym Mryste, Pont Grog Clifton, ar draws Afon Avon, a adeiladwyd gan Isambard Kingdom Brunel.
Gwleidyddiaeth a gweinyddiaethGolygu
Mae Bryste'n unigryw gan fod ganddo statws sirol ers y canoloesoedd. Yn 1835 ehangwyd y ffiniau er mwyn cynnwys treflanau megis Clifton ac roedd yn fwrdeistref sirol ym 1889 pan ddefnyddiwyd y term hwn am y tro cyntaf.[2][3] Ar 1 Ebrill 1996, adenillodd ei statws fel sir (neu "swydd") pan ddiddymwyd yr enw "Swydd Avon" a daeth yn swydd unedol.[4]
Etholaethau seneddolGolygu
Rhennir y sir yn chwe etholaeth seneddol yn San Steffan. At ddibenion gweinyddol mae'n dal i gael ei restru fel rhan o'r hen sir Avon.
Adeiladau a chofadeiladauGolygu
- Castell Bryste
- Eglwys gadeiriol
- Eglwys y Teml
- Neuadd Colston
- Theatr Old Vic
- Tŵr Colston
EnwogionGolygu
- Robert Southey (1774-1843), bardd
- Isaac Rosenberg (1890-1918), bardd ac arlunydd
- Lee Evans (g. 1964), comediwr
- Paul Potts (g. 1971), canwr
Gweler hefydGolygu
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Gwefan gutorglyn.net; adalwyd 22 Mawrth 2018.
- ↑ Rayfield, Jack (1985). Somerset & Avon. London: Cadogan. ISBN 0-947754-09-1.
- ↑ "LOCAL GOVERNMENT BILL (Hansard, 16 November 1971)". hansard.millbanksystems.com. Cyrchwyd 7 Mawrth 2009.
- ↑ "The Avon (Structural Change) Order 1995". www.opsi.gov.uk. Cyrchwyd 27 Ionawr 2013.