Eliza Constantia Campbell

awdur

Awdures Gymreig oedd Eliza Constantia Campbell (Morrieson) (8 Ionawr 17961864).[1] Roedd ei thad Richard Pryce o Gunley (Forden) yn un o ddisgynyddion y Capten Richard Pryce fu'n filwr blaenllaw o blaid y Senedd yn ystod Rhyfel Cartrefol Lloegr a Chymru. Roedd Eliza yn awdures, a bu'n briod yn gyntaf gyda'r Commander Robert Campbell R.N.(bu f. 1832) yn 1826, a oedd yn gefnder i'r bardd Thomas Campbell, ac yn ail gyda'r Capten Hugh Morrieson, E.I.C. (bu f. 1859) yn 1844. O'r briodas gyntaf y ganwyd Lewis Campbell, yr ysgolhail Groeg. Fel awdur cyhoeddodd y llyfr Stories from the History of Wales (1833), ac yna'r ail-agraffiad gyda'r teitl Tales about Wales (1837). Bu farw Eliza yn 1864.

Eliza Constantia Campbell
Ganwyd8 Ionawr 1796 Edit this on Wikidata
Bu farw1864 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata

Ffynonellau golygu

Cyfeiriadau golygu