Montgomeryshire Worthies, ail argraffiad (1894)

Mae Montgomeryshire Worthies yn llyfr gan Richard Williams (1835 - 1906), hynafiaethydd, hanesydd, a chyfreithiwr [1] a gyhoeddwyd gan wasg Phillips & Sons, y Drenewydd ym 1894. Mae'r llyfr yn fywgraffiadur sy'n cynnwys brasluniau am bobl a chysylltiad trwy enedigaeth, breswylfa hir, eiddo neu swydd a Sir Drefaldwyn a'i ffiniau. Mae'r llyfr yn cofnodi manylion dros 400 o enwogion y sir ym meysydd llenyddiaeth, crefydd, gwleidyddiaeth, y celfyddydau a'r gwyddorau neu fel arall.[2]

Ym 1875 dechreuodd Richard Williams cyhoeddi cyfres o erthyglau am enwogion Maldwyn yn Nhrafodion y Powysland Club [3] cymdeithas hanes a hynafiaethau sydd yn ymwneud â hen Dywysogaeth Powys. Ym 1884 cyhoeddwyd yr erthyglau mewn llyfryn o dan yr enw Montgomeryshire Worthies. Mae'r ail argraffiad yn llyfr "go iawn" sy'n cynnwys y cyfan o'r erthyglau gwreiddiol a nifer fawr o egin bywgraffiadau na fyddent yn ddigonol ar gyfer erthyglau yn y trafodaethau.

Mae copi digidol o'r llyfr ar gael i'w darllen yn di dal ar wefan Internet Archive.[4]

Cyferiadau golygu

  1. WILLIAMS, RICHARD (1835 - 1906), hynafiaethydd, hanesydd, a chyfreithiwr. Y Bywgraffiadur Cymreig Adferwyd 6 Rhagfyr 2019
  2. Williams, Richard (1894). Montgomeryshire Worthies. Y Drenewydd: Phillips & Sons.
  3. Powysland Club Adferwyd 6 Rhagfyr 2019
  4. "Internet Archive: Digital Library of Free & Borrowable Books, Movies, Music & Wayback Machine". archive.org. Cyrchwyd 2019-12-06.