Grundarfjarðarbær

Tref, Gwlad yr Iâ

Mae Grundarfjörður sillefir hefyd yn Grundarfjarðarbær yn dref fechan yng ngogledd penrhyn Snæfellsnes yng ngorllewin Gwlad yr Iâ yn Rhanbarth Vesturland. Fe'i lleolir rhwng crib o fynyddoedd a'r môr. Mae'r mynydd ger llaw, Kirkjufell yn ffurfio penrhyn bychan. Poblogaeth y dref ar 1 Ionawr 2017 oedd 869 a'i faint yw 148 km².

Grundarfjarðarbær
MathCymunedau Gwlad yr Iâ Edit this on Wikidata
Poblogaeth861 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1800 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethBjörg Ágústsdóttir Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC±00:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iPempoull Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRhanbarth y Gorllewin Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad yr Iâ Gwlad yr Iâ
Arwynebedd149 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSnæfellsbær, Helgafellssveit Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau64.9244°N 23.1901°W, 64.92164°N 23.19501°W Edit this on Wikidata
Cod post350 Edit this on Wikidata
IS-GRU Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethBjörg Ágústsdóttir Edit this on Wikidata
Map
Map Grundarfjardarbaer
Grundarfjørdur

Gorolwg golygu

Yn ôl y Landnámabók, sy'n adrodd hanes gwladychu Gwlad yr Iâ yn y 9g a'r 10g, adorddir mai Herjólfur Sigurðsson a fabwysiadodd y tir rhwng Penrhyn Búlandshöfði a Fjord Kirkjufjörður. Ni wyddys yn union lle'r oedd y ffjord Kirkjufjörður, ond credir mai dyma oedd y ffin bresennol Grundarfjörður.

Derbyniodd y dref ei hawl i fasnachu yn 1786. Oddeutu 1800, daeth masnachwyr Ffrengig i Wlad yr Iâ gan fyw yn Grundarfjörður gan adeiladu esglwys ac ysbyty yno. Mae'r dref wedi tyfu'n gyfoethog o ganlyniad i'r diwydiant bysgota a gwelir tai moethus yn yr ardal.

Roedd sawl adeilad yn sefyll ar bentir o'r enw Framnes. Defnyddiwyd yr enw hwn tan tua 1940 ar gyfer y lle. Ar ôl hynny, gelwir y lle Grafarnes neu Grundarfjörður, hyd nes y bu pleidlais yn 1965 pen bleidleisiwyd dros yr enw Grundarfjörður.

Mae'r ffordd i dref Stykkishólmur sydd gerllaw yn croeso maes lafa Berserkjahraun. Daw'r enw am y maes lafa yma o saga Eyrbyggja. Yn ôl y stori fe laddwyd dau Berserker gan ei meistr, oherwydd i un ohonynt gwympo mewn cariad gyda merch y meistr.

Poblogaeth golygu

 
Grundasfjordur

Grundarfjörður yw un o'r ychydig leoedd i ffwrdd o ranbarth y brifddinas yng Ngwlad yr Iâ, y mae ei phoblogaeth wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, o leiaf tan 2005. Ar y naill law, mae hyn oherwydd natur broffidiol pysgota yma ac, ar y llaw arall, i ehangu'r seilwaith yn y blynyddoedd diwethaf. Wedi hynny, gellir gweld ychydig o ddirywiad, gyda chynnydd bach yn y boblogaeth tan 2008.

Dyddiad Poblogaeth
1 Rhag. 1981: 792
1 Rhag. 1997: 920
1 Rhag. 2003: 936
1 Rhag. 2004: 938
1 Rhag. 2005: 974
1 Rhag. 2006: 954
1 Rhag. 2007: 918
1 Rhag. 2008: 921

Gyfeilldref golygu

 
Grundarfjördur gyda mynydd Kirkjufell yn y cefndir

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu