Mimas yw'r seithfed o loerennau Sadwrn a wyddys:

  • Cylchdro: 185,520 km oddi wrth Sadwrn
  • Tryfesur: 392 km
  • Cynhwysedd: 3.80e19 kg
Mimas
Enghraifft o'r canlynollleuad o'r blaned Sadwrn, lleuad arferol Edit this on Wikidata
Màs37.496 ±0.01 Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod17 Medi 1789 Edit this on Wikidata
Echreiddiad orbital0.0196 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Roedd Mimas yn un o'r Gigantes (Cewri) i gael ei ladd gan Ercwlff ym mytholeg Roeg.

Darganfuwyd y lloeren ym 1789 gan Herschel.

Mae dwysedd isel Mimas (1.17) yn dangos ei bod wedi ei chyfansoddi yn fwy na dim gan dŵr gyda dim ond swm bach o graig.

Mae arwyneb Mimas yn cael ei oruchafu gan grater 130 km gyda'r enw Herschel. Mae uchder waliau Herschel tua 5 km, mae dyfnder rhannau o'i lawr yn 10 km, ac mae ei fan canolog yn codi 6 km uwchben llawr y crater. Byddai'r trawiad a achosodd y crater bron wedi dinistrio Mimas. Mae arwyneb Mimas yn llawn o graterau sy'n hanu o drawiadau llai.