Mytholeg Roeg yw chwedloniaeth Gwlad Groeg a'r byd Hen Roeg ei iaith yn yr Henfyd a chynt. Mae'n ymwneud â duwiau ac arwyr y Groegiaid gynt, natur y byd, a dechreuadau a phwysigrwydd eu harferion a'u defodau eu hunain. Roeddent yn rhan o grefydd yng Ngroeg yr Henfyd. Mae ysgolheigion cyfoes yn cyfeirio at y chwedlau ac yn eu hastudio gyda'r bwriad o hybu gwell dealltwriaeth o sefydliadau crefyddol a gwleidyddol byd Groeg, eu gwareiddiad, ac i feithrin eu dealltwriaeth o'r arfer o greu chwedlau ei hunan.[1] Mae rhai diwynyddwyr wedi awgrymu fod y Groegiaid cynnar wedi creu chwedlau er mwyn medru esbonio popeth ac i sicrhau fod rhesymeg tu ôl i bopeth.

Trindod Gwlad Groeg a dosbarthiad tair teyrnas y Ddaear: Zews (nefoedd), Poseidon (moroedd a chefnforoedd) ac Hades (Isfyd). Theos (mân dduwiau) yw plant y drindod hon.
Penddelw o Zews sydd i'w weld yn Otricoli (Sala Rotonda, Amgueddfa'r Fatican, Y Fatican)

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. (1952) {{{teitl}}}
  Eginyn erthygl sydd uchod am fytholeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
  Eginyn erthygl sydd uchod am Wlad Groeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato