Mae Orthorecsia’n cael ei ddiffinio fel obsesiwn â bwyta’n iach. Y cyfieithiad llythrennol Groegaidd yw ‘bwyta’n gywir’. Nid yw Orthorecsia’n anhwylder sydd wedi’i chydnabod yn feddygol, ond mae dal yn broblem y mae nifer o bobl yn brwydro â hi.

Orthorecsia
Mathanhwylder bwyta Edit this on Wikidata

Caiff Orthorecsia’n amlach ei ystyried fel math o Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD), yn hytrach nag anhwylder bwyta. Mae hyn oherwydd bod gan rywun sy’n byw ag orthorecsia gymhelliad i fwyta’n iach oherwydd ffordd llym o feddwl am ac ymddwyn o amgylch bwyd, ac nid yw wedi’i ysgogi gan hunan-ddelwedd.

Gall Orthorecsia olygu torri allan grwpiau bwyd cyfan o’r deiet er mwyn dileu unrhyw fwydydd nad ydynt yn ‘bur’, sy’n gwneud y ddelfryd o fwyta’n iach yn segur.

Symptomau golygu

  • Purdeb yn hytrach na phleser. Gall eich deiet ddod yn wael pan fyddwch yn poeni am ba mor ‘pur’ yw eich bwyd dros y pleser o’i fwyta
  • Obsesiwn â phryderon iechyd. Gall diddordeb sylweddol yn y cysylltiadau rhwng bwyd a chyflyrau iechyd, a newid eich arferion bwyta’n dramatig o’r herwydd fod yn achos gofidio
  • Meddyliau afresymol. Yn ogystal â ffocysu ar bryderon iechyd posibl, gall meddyliau obsesiynol am lendid wrth baratoi bwyd fod yn arwydd
  • Hunan-niweidio. Gan fod pobl sydd ag Orthorecsia’n mynd ar ddeiet sy’n anodd i’w ddilyn, gallent niweidio eu hunain pe baent yn llithro oddi arno.
  • Hunan-barch isel. Gall pobl ag Orthorecsia fod â diffyg hyder a beio’u hunain am fod ag awydd bwyd neu am lithro oddi ar eu deiet.
  • Unigedd. Os yw’r obsesiwn â’r hyn rydych yn ei fwyta’n dod cyn eich bywyd cymdeithasol neu bywyd dyddiol
  • Pwysau isel. Mae pobl sydd ag Orthorecsia’n aml yn colli pwysau’n eithafol.

Triniaeth golygu

Gellid trefnu triniaethau siarad megis cwnsela a Therapi Gwybyddyol Ymddygiadol (CBT). Ni annogir siarad â deietegydd a newid eich deiet fel y prif ffocws, oherwydd dylid tynnu’r pwyslais oddi ar fwyd er mwyn lleddfu’r obsesiwn. Argymhellir bod pobl sydd ag Orthorecsia’n cael eu hail-gyflwyno’n araf i wahanol grwpiau bwyd er mwyn dychwelyd at ddeiet normal.


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol yn unig. Allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o’r dudalen Orthorecsia ar wefan  , sef gwefan at y diben o ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth am iechyd meddwl yn y Gymraeg. Mae gan y dudalen penodol hwnnw drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio’r gwaith.

Am driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall