Sandro Botticelli

arlunydd Eidalaidd

Arlunydd Eidalaidd oedd Alessandro di Mariano di Vanni Filipepi, sy'n fwy adnabyddus fel Sandro Botticelli (1 Mawrth 144517 Mai 1510).[1]

Sandro Botticelli
Hunanbortread honedig o Sandro Botticelli, o'i lun Addoliad y Doethion.
Ffugenwdi Mariano Filipepi, Alessandro Edit this on Wikidata
GanwydAlessandro di Mariano di Vanni Filipepi Edit this on Wikidata
c. 1445 Edit this on Wikidata
Fflorens Edit this on Wikidata
Bu farw17 Mai 1510 Edit this on Wikidata
Fflorens Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, drafftsmon, drafftsmon, fresco painter Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Andrea del Verrocchio Edit this on Wikidata
Adnabyddus amGenedigaeth Gwener, Addoliad y Doethion, Primavera, Fortitude Edit this on Wikidata
Arddullportread, peintio hanesyddol, paentiadau crefyddol, alegori, paentiad mytholegol, celfyddyd grefyddol Edit this on Wikidata
Mudiady Dadeni Cynnar, Florentine School Edit this on Wikidata

Yn enedigol o Fflorens, nid oes llawer o wybodaeth ar gael am fywyd Botticelli. Dywed Giorgio Vasari iddo hyfforddi fel gôf aur yn wreiddiol. Erbyn 1462 mae'n debyg ei fod yn brentis i Fra Filippo Lippi. Yn 1470 roedd ganddo ei weithdy ei hun. Dyddia ei Addoliad y Doethion cyntaf o tua 1475–1476. Tua 1478, cynhyrchodd ddau o'i gampweithiau, La Primavera neu Alegori'r Gwanwyn (tua 1478) a Genedigaeth Gwener (tua 1485). Erbyn 1499, roedd y ddau yn fila Lorenzo di Pierfrancesco de' Medici yn Castello.

Yn 1481, galwodd Pab Sixtus IV Botticelli ac arlunwyr eraill o Fflorens ac Umbria i arlunio ffresco ar furiau y Cappella Sistina yn y Fatican. Wedi dychwelyd i Fflorens, ysgrifennodd draethawd ar ran o waith Dante gyda darluniau ganddo ef ei hun, a'i argraffu.

Yn nes ymlaen yn ei fywyd, roedd Botticelli yn un o ddilynwyr Savonarola. Dywed Vasari iddo roi'r gorau i arlunio am gyfnod dan ddylanwad Savonarola, a mynd i drafferthion ariannol.

Genedigaeth Gwener , 1486. Uffizi, Fflorens.

Cyfeiriadau golygu

  1. Alfred Friedrich Gottfried Albert Woltmann; Karl Woermann (1885). History of Painting: The painting of the renascence. Dodd, Mead, & Company. t. 294.