Uffizi
amgueddfa yr Eidal
Oriel gelf yn Fflorens ac o un amgueddfeydd hynaf Ewrop yw Oriel yr Uffizi (Eidaleg: Galleria degli Uffizi). Fe'i agorwyd i'r cyhoedd yn ei ffurf bresennol ym 1765. Ar gasgliad preifat teulu'r Medici, teyrnaswyr Fflorens hyd y 18g, y mae ei chasgliad wedi'i seilio. Lleolir yr oriel mewn adeilad a'i cynlluniwyd fel swyddfeydd (uffici) ar gyfer gwladwriaeth Toscana gan y pensaer Giorgio Vasari, sydd yn bennaf yn enwog fel bywgraffydd cynnar i arlunwyr y Dadeni.[1]

Loggia dei Uffizi, yn wynebu Afon Arno
Rhai o uchafbwyntiau'r casgliadGolygu
- Cimabue, Maestà
- Duccio, Madonna Rucellai
- Giotto, Madonna Ognissanti
- Paolo Uccello, Brwydr San Romano
- Sandro Botticelli, Primavera, Genedigaeth Gwener
- Leonardo da Vinci, Bedydd Crist (gyda gweithdy Andrea del Verrocchio), Cyfarch Mair, Addoliad y Doethion
- Michelangelo, Tondo Doni
- Raffael, Madonna del Cardellino
- Titian, Gwener Urbino
- Caravaggio, Aberth Isaac, Medusa
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Fossi, Gloria (2000). The Uffizi. Fflorens: Giunti. t. 7.