Vera Brittain

llenor Seisnig (1893-1970)

Awdures, ffeminist a nyrs Seisnig oedd Vera Mary Brittain (29 Rhagfyr 189329 Mawrth 1970). Mam y gwleidydd Shirley Williams oedd hi. Roedd hi'n fwyaf adnabyddus am ei hunangofiant, Testament of Youth.

Vera Brittain
Ganwyd29 Rhagfyr 1893 Edit this on Wikidata
Newcastle-under-Lyme Edit this on Wikidata
Bu farw29 Mawrth 1970 Edit this on Wikidata
Wimbledon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaethnyrs, ysgrifennwr, bardd, nofelydd, ymgyrchydd dros hawliau merched, heddychwr, newyddiadurwr, ymgyrchydd heddwch, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched Edit this on Wikidata
Adnabyddus amTestament of Youth Edit this on Wikidata
PriodGeorge Catlin Edit this on Wikidata
PartnerRoland Leighton Edit this on Wikidata
PlantShirley Williams, John Edward Jocelyn Brittain Catlin Edit this on Wikidata

Cafodd ei geni yn Newcastle Under Lyme, yn ferch i Thomas Arthur Brittain (1864–1935) a'i wraig, Edith Bervon Brittain (1868–1948). Roedd ganddi un brawd, Edward. Cafodd ei magu ym Macclesfield a

Aeth i astudio Llenyddiaeth Saesneg yng Ngholeg Somerville, Rhydychen, ond yna daeth yn nyrs wirfoddol (VAD) yn Llundain, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Aeth i Ffrainc a Malta i weithio fel nyrs. Lladdwyd ei brawd Edward a hefyd ei cariad, Roland Leighton, ar faes y gad. Ar ôl dychwelyd i Rydychen, cyfarfu â Winifred Holtby. Daeth y ddwy ohonyn nhw'n nofelwyr; bu farw Holtby ym 1935. Daeth Vera yn ymgyrchydd heddwch gweithredol.

Priododd George Catlin, wedyn Syr George, ym 1925.[1] Eu fab oedd yr arlunydd John Brittain-Catlin (1927–1987). Bu farw Vera Brittain yn Wimbledon yn 76 oed.

Llyfryddiaeth golygu

Nofelau golygu

  • The Dark Tide (1923)
  • Honourable Estate (1936)

Hunangofiant golygu

  • Testament of Youth (1933)
  • Honourable Estate (1936)
  • Testament of Friendship (1940)
  • Testament of Experience (1957)

Eraill golygu

  • Halcyon: Or, The Future of Monogamy (1929)

Cyfeiriadau golygu

  1. Grayling, A. C.; Pyle, Andrew; Goulder, Naomi (2006). The Continuum encyclopedia of British philosophy. Bristol: Thoemmes Continuum. ISBN 9781843711414. OCLC 676714142.