Coleg Somerville, Rhydychen
Coleg Somerville, Prifysgol Rhydychen | |
Arwyddair | Donec rursus impleat orbem |
Sefydlwyd | 1879 |
Cyn enw | Neuadd Somerville |
Enwyd ar ôl | Mary Somerville |
Lleoliad | Woodstock Road, Rhydychen |
Chwaer-Goleg | Coleg Girton, Caergrawnt |
Prifathrawes | Alice Prochaska |
Is‑raddedigion | 400[1] |
Graddedigion | 184[1] |
Gwefan | www.some.ox.ac.uk |
Un o golegau cyfansoddol Prifysgol Rhydychen yw Coleg Somerville (Saesneg: Somerville College). Bu'n un o'r colegau i ferched cyntaf i gael eu sefydlu yno.
Hanes
golyguSefydlwyd Somerville (dan yr enw Neuadd Somerivlle) yn 1879, gyda'r nod o ddarparu rhyw fath o addysg uwch i ferched, gan na chaent fod yn aelodau o Brifysgol Rhydychen ar y pryd. Cymer y Coleg ei enw oddi wrth Mary Somerville, un o wyddonwyr benywiadd enwoca'r 18g. Benthycodd y Coleg arfbais ei theulu hefyd, a'r arwyddair 'Donec rursus impleat orbem'. Yn wahanol i Neuadd Lady Margaret a sefydlwyd yn yr un flwyddyn, mynnodd sefydlwyr y coleg na ddylai ei aelodau orfod pasio unrhyw brofion ar sail crefydd i gael ymuno â'r coleg.
Drwy ei hanes, bu'r Coleg ym mlaen y frwydr dros addysg i ferched. Yn 1894, Somerville oedd y cyntaf o'r 5 Neuadd i Ferched i fabwysiadu'r term Coleg, a Somerville oedd y cyntaf hefyd i adeiladu llyfrgell. Yn 1903 sefydlwyd y 'Mary Somerville Research Fellowship', y cynta i gynnig cyfle ymchwil i ferched.
Cydnabuwyd y Coleg yn aelod llawn o'r Brifysgol yn 1959. Yn 1992 cymerwyd y penderfyniad i ganiatau i ddynion fynychu'r coleg, gyda'r cyntaf yn cyrraedd yn 1994. Y Brifathrawes bresennol yw Alice Prochaska.
Cynfyfyrwyr
golyguMae cynfyfyrwyr Somerville wedi gwneud cyfraniad mawr i statws merched mewn sawl maes. Ymysg ei gynfyfyrwyr enwocaf mae Margaret Thatcher a ddaeth yn brif weinidog benwyaidd cyntaf y Deyrnas Unedig yn 1979. I Somerville hefyd yr aeth Indira Gandhi a ddaliodd y swydd gymharol yn India.
Ymysg y gwyddonwyr a fynychodd y coleg mae Dorothy Hodgkin a enillodd Wobr Nobel am ei gwaith ar strwythur insulin, penicillin, a vitamin B12.
Mae Somerville hefyd yn unigryw o blith colegau Rhydychen a Chaergrawnt fel yr unig goleg a ellir ei ddisgrifrio o gael 'Ysgol o Nofelwyr'. Ymysg y llenorion a fynychodd y Coleg mae Dorothy L. Sayers, Iris Murdoch, Winifred Holtby a Vera Brittain
Rhestr cynfyfyrwyr
golygu- Margaret Mackworth, Arglwyddes Rhondda (1883–1958), dynes fusnes Cymreig a swffragét
- Dorothy L. Sayers (1893–1957), nofelydd
- Vera Brittain (1893–1970), llenores a heddychwraig
- Winifred Holtby (1898–1935), nofelydd
- Dorothy Hodgkin (1910–1994), gwyddonwr
- Indira Gandhi (1917–1984), Prif Weinidog India
- Iris Murdoch (1919–1999), nofelydd
- Margaret Thatcher (1925–2013), Prif Weinidog y Deyrnas Unedig
- Catherine "Caryl" Glyn Davies (1926–2007), hanesydd Cymreig
- Jane Aaron (g. 1951), addysgwr Cymreig
- Nia Griffith (g. 1956), gwleidydd
- Flora Forster (1896-1981)
- Ottoline Morrell (1873-1938)
- Shirley Williams (1930-2021), gwleidydd
Prifathrawon
golygu- Madeleine Shaw-Lefevre (1879-1889)
- Agnes Catherine Maitland (1889-1906)
- Emily Penrose (1906-1926)
- Margery Fry (1926-1930)
- Helen Darbishire (1930-1945)
- Janet Vaughan (1945-1967)
- Barbra Craig (1967-1980)
- Daphne Park (1980-1989)
- Catherine Pestell (1989-1991)
- Catherine Hughes (1991-1996)
- Fiona Caldicott (1996-2010)
- Alice Prochaska (2010-2017)
- Janet Royall (2017- )
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Niferoedd myfyrwyr, Rhagfyr 2016: Prifysgol Rhydychen; adalwyd 25 Mai 2017.