Mae Archana Soreng (ganwyd: 1996) yn ymgyrchydd hinsawdd sy'n perthyn i frodorion Kharia, o Bentref Bihabandh yn Rajgangpur, Sundergarh, Odisha, India.[1] Mae hi wedi bod yn gweithio i godi'r ymwybyddiaeth o newid hinsawdd yn ogystal â dogfennu, cadw a hyrwyddo gwybodaeth ac arferion traddodiadol cymunedau brodorol.

Archana Soreng
Soreng yn Awst 2020
Ganwyd1996 Edit this on Wikidata
Rajgangpur Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner India India
Alma mater
  • Sefydliad Gwyddoniaeth Gymdeithasol Tata
  • Coleg y Merched, Patna Edit this on Wikidata
Galwedigaethymgyrchydd hinsawdd, amgylcheddwr Edit this on Wikidata

Fe'i dewisiwyd yn un o saith aelod y Grŵp Cynghori Ieuenctid ar Newid Hinsawdd a sefydlwyd gan Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig fel rhan o Strategaeth Ieuenctid y Cenhedloedd Unedig.[2][3][4][5][6]

Ym Mai 2021, ar y wefan thehindu.com, dywedodd:[7]

Mae ein cyndeidiau wedi bod yn amddiffyn y goedwig a natur dros yr oesoedd. Nawr mae'n gyfrifoldeb arnom ni i fod yn ar flaen y gad yn ein brwydr yn erbyn yr argyfwng newid hinsawdd.

Cefndir

golygu

Un o bobl y Khadia yw Soregn ac fe’i magwyd yn Rajgangpur yn Odisha.[8] Dechreuodd ymgyrchu ar ôl marwolaeth ei thad.[9] Trwy gydol ei hoes mae wedi bod yn weithgar yn y Mudiad Ieuenctid Catholig Indiaidd.[10]

Mae'n cyn-lywydd undeb myfyrwyr TISS a hi, hefyd, yw cyn-gynullydd Cenedlaethol y 'Comisiwn y Llwythi' a elwir hefyd yn "Adivasi Yuva Chetna Manch", un o feysydd byrdwn Ffederasiwn Prifysgol Gatholig India-gyfan (AICUF).[11] Ar hyn o bryd, mae'n gweithio fel swyddog ymchwil yn Vasundhara Odisha. Mae Vasundhara yn sefydliad ymchwil gweithredu (action research) ac eiriolaeth polisi (policy advocacy) yn Bhubaneswar sy'n gweithio ar lywodraethu adnoddau naturiol, hawliau llwythol, a chyfiawnder hinsawdd.[12][13]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Bhattacharya, Amava (2020-08-25). "Tribal communities must be made stakeholders in post-Covid world: Archana Soreng | Bhubaneswar News - Times of India". The Times of India (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-11-18.
  2. "Archana Soreng Joins UN Youth Advisory Group On Climate Change". SheThePeople TV (yn Saesneg). 2020-08-07. Cyrchwyd 2020-08-20.
  3. "Activist Archana Soreng in UN Chief's New Youth Advisory Group on Climate Change". The Wire. Cyrchwyd 2020-08-20.
  4. Arora, Sumit. "Archana Soreng named by UN chief to new advisory group" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-11-18.
  5. "Meet Archana Soreng - Indian activist named by UN chief to new advisory group on climate change". Free Press Journal (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-11-18.
  6. "First Odia Girl to be Named Into New Advisory Group On Climate Change". KalingaTV (yn Saesneg). 2020-07-29. Cyrchwyd 2020-11-18.
  7. www.thehindu.com; adalwyd 7 Mai 2021
  8. "Archana Soreng: Warrior For Climate Change". femina.in (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-08-27.
  9. "Tribal communities must be made stakeholders in post-Covid world: Archana Soreng | Bhubaneswar News - Times of India". The Times of India (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-08-27.
  10. "UN appoints Indian Archana Soreng to Youth Advisory Group on Climate Change - Vatican News". www.vaticannews.va (yn Saesneg). 2020-07-31. Cyrchwyd 2020-08-27.
  11. "Archana Soreng: Warrior For Climate Change". femina.in (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-08-27.
  12. "When Adivasis Feel Secure, They Will Be Able To Enjoy Freedom: Climate Activist Archana Soreng". HuffPost India (yn Saesneg). 2020-08-14. Cyrchwyd 2020-11-18.
  13. "Young Indian Activist Archana Soreng Becomes Part of UN Advisory Group on Climate Change". News18 (yn Saesneg). 2020-07-28. Cyrchwyd 2020-11-18.