Mae Odisha (Orissa cyn 2011) yn dalaith ar arfordir dwyreiniol India. Roedd ei phoblogaeth yn 36,706,920 yn 2001. Bhubaneswar yw prifddinas y dalaith, a'r prif borthladd yw Paradip. Mae dinas Puri yn cael ei hystyried yn ddinas sanctaidd ac yn safle teml enwog Jagannath. Iaith swyddogol y dalaith yw Oriya, iaith Indo-Ariaidd sy'n perthyn yn agos i Bengaleg. Hindwaeth yw'r brif grefydd; roedd 94.35% o boblogaeth y dalaith yn Hindwiaid yn 2001.

Orissa
Mathtalaith India Edit this on Wikidata
LL-Q9610 (ben)-Titodutta-ওড়িশা.wav Edit this on Wikidata
PrifddinasBhubaneswar Edit this on Wikidata
Poblogaeth41,974,218 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1936 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethMohan Charan Majhi Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Odia Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirIndia Edit this on Wikidata
GwladBaner India India
Arwynebedd155,707 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaGorllewin Bengal, Jharkhand, Chhattisgarh, Andhra Pradesh Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau20.15°N 85.5°E Edit this on Wikidata
IN-OD Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholOdisha Legislative Assembly Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethGaneshi Lal Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Chief Minister of Odisha Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMohan Charan Majhi Edit this on Wikidata
Map

Mae'r hinsawdd yn wlyb, ac mae tyfu reis yn bwysig iawn yma, yn enwedig ar y tir ffrwythlon ger glannau'r môr. Ceir tua chwarter mwyn haearn India yn Odisha, a phumed rhan o'i glo, yn ogystal â chanran uchel o nifer o fwynau eraill. O ganlyniad tyfodd cryn dipyn o ddiwydiant yn y dalaith. Yn Odisha y bu Rhyfel Kalinga yn 261 CC.; y rhyfel yma a berswadiodd yr ymerawdwr Ashoka i droi ei gefn ar ryfela a throi'n Fwdydd.

Lleoliad Odisha yn India


Taleithiau a thiriogaethau India
Taleithiau Andhra PradeshArunachal PradeshAssamBiharChhattisgarhGoaGorllewin BengalGujaratHaryanaHimachal PradeshJharkhandKarnatakaKeralaMadhya PradeshMaharashtraManipurMeghalayaMizoramNagalandOrissaPunjabRajasthanSikkimTamil NaduTelanganaTripuraUttarakhandUttar Pradesh
Tiriogaethau Ynysoedd Andaman a NicobarChandigarhDadra a Nagar HaveliDaman a DiuDelhiJammu a KashmirLakshadweepPuducherry