Ardaloedd ieithyddol Gwlad Belg
Sefydlwyd ardaloedd ieithyddol Gwlad Belg (Iseldireg: taalgebieden, Ffrangeg: régions linguistiques) yn 1963, a daethant yn rhan o'r Cyfansoddiad yn 1970. Nodweddir Gwlad Belg gan raniaid ieithyddol rhwng siaradwyr Fflemeg neu Iseldireg a siaradwyr Ffrangeg, gyda nifer lawer llai o siaradwyr Almaeneg yn y dwyrain. Ar adegau, mae cryn dyndra wedi datblygu rhwng y ddwy brif garfan ieithyddol. Ceisiwyd delio a'r sefyllfa yma trwy sefydlu ardaloedd ieithyddol o fewn gwladwriaeth ffederal Gwlad Belg.
Ceir pedair o'r rhain:
- ardal ieithyddol yr Iseldireg
- ardal ddwyieithog Prifddinas-Brwsel
- ardal ieithyddol Ffrangeg
- ardal ieithyddol Almaeneg
Dynodir hefyd dair cymuned o fewn Gwlad Belg; mae'r rhain yn cyfeirio at y bobl ac nid ydynt yn raniadau daearyddol:
- y Gymuned Fflemaidd (Vlaamse Gemeenschap), yn siarad Iseldireg
- y Gymuned Ffrengig ei hiaith (Communauté Française)
- y Gymuned Almaeneg ei hiaith (Deutschsprachige Gemeinschaft)