Tarian deirannog aur sydd yn darlunio'r arwyddair cenedlaethol ("Trefn, Rhyddid, Cyfiawnder") yw arfbais Tiwnisia. Yn yr adran uchaf mae llong Pwnig i gynrychioli'r setlwyr cynnar i Garthago a'u rhyddid; yn yr adran isaf chwith mae mantol cyfiawnder; ac yn yr adran isaf dde mae llew ddu yn dwyn cleddyf i gadw'r drefn. Ymddangosir yr arwyddair ar sgrôl ar draws canol y darian ei hun. Uwchben y darian mae seren a chilgant coch tu mewn i gylch gwyn, yr un symbol sydd yng nghanol baner Tiwnisia.[1]

Arfbais Tiwnisia

Cyfeiriadau golygu

  1. Siobhán Ryan et al. Complete Flags of the World (Llundain: Dorling Kindersley, 2002), t. 60.