Symbol sydd yn tarddu o eiconograffiaeth yr oes Helenistaidd yn y Dwyrain Agos yw'r seren a chilgant. Defnyddir heddiw fel rhan o arwyddluniau neu faneri sawl gwlad yn y byd Mwslimaidd, a hefyd yn aml fel symbol o grefydd Islam.

Dyluniad hynafol y seren a chilgant, a ddefnyddid yn ardal Bysantiwm yn y 1g CC.
Y seren a chilgant coch a ddefnyddir fel arwyddlun cenedlaethol Twrci.

Ers talwm, defnyddid siâp y seren i gynrychioli naill ai'r haul neu'r Seren Fore (planed Gwener), a ffurf chwarter y lleuad, neu'r cilgant, i gynrychioli'r lleuad.Arddangosir y fath symbolau ar ddarnau arian sydd yn dyddio'n ôl bron i gyfnod yr hen Fesopotamiaid. Datblygodd y seren a chilgant yn ddelw gyfunedig yn yr 2g CC, yn nhiroedd Groeg eu hiaith yn Asia Leiaf, yn bennaf Pontus a Bysantiwm, ac yn Nheyrnas Bosporus ar lannau gogledd-ddwyrain y Môr Du. Yng ngwladfa Bysantiwm cysylltwyd y symbol â'r dduwies Artemis-Hecate, ac yn yr oes Rufeinig yn gynrychioliad o dduwiesau'r lleuad: Selene-Luna neu Artemis-Diana.

Yn y cyfnod modern, cafodd y seren a chilgant ei mabwysiadu'n arwyddlun Ymerodraeth yr Otomaniaid, ac ar faner 1844 a ddefnyddir o hyd yn faner genedlaethol Twrci. Ymddangosir hefyd ar faneri Libia, Tiwnisia, Algeria, Aserbaijan, Pacistan, Maleisia, Singapôr, a Mawritania. Yn yr 20g, daeth y seren a chilgant yn symbol Islamaidd, yn enwedig un a ddefnyddir gan genedlaetholwyr Arabaidd ac Islamyddion yn y 1970au a'r 1980au. Mae rhai Mwslimiaid yn ystyried y defnydd hwn yn ddi-sail ac yn anghywir.