Arglwyddiaeth Brycheiniog
Arglwyddiaeth Normanaidd Barwniaid y Mers oedd Arglwyddiaeth Brycheiniog a leolwyd yn Ne Cymru a'i Chanolbarth rhwng 1088 a 1535. Ei chanolfan weinyddol oedd Aberhonddu.
Enghraifft o'r canlynol | arglwyddiaeth y Mers |
---|---|
Daeth i ben | 1535 |
Dechrau/Sefydlu | 1088 |
Rhagflaenwyd gan | Teyrnas Brycheiniog |
Olynwyd gan | Teyrnas Lloegr |
- Arlwyddiaeth Normanaidd oedd Arglwyddiaeth Brycheiniog; am yr hen deyrnas Gymreig, gweler Teyrnas Brycheiniog.
Concwest 1070–93
golyguYn weinyddol, gorchfygwyd tiroedd Brycheiniog rhwng 1070 a 1093 gan Bernard de Neufmarché a William FitzOsbern Iarll cyntaf Henffordd, pan drechwyd tri tri o frenhinoedd De Cymru a Rhys ap Tewdwr, (bu farw 1093) yn frenin teyrnas Deheubarth.[1]
Sefydlodd Bernard de Neufmarché ei hun yn Arglwydd Brycheiniog.[2] Dewisiodd y tir uchel ger tref Aberhonddu - rhwng cymer afonydd Wysg a Honddu - yn ganolfani'w arglwyddiaeth newydd. Adeiladodd gastell mwnt a beili yn 1093 ac ychwanegwyd ato gan ei gryfhau'n arw dros y canrifoedd. Sefydlodd Bernard Briordy Benedictaidd a elwir heddiw yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu ac eglwys a gysegrwyd i Ioan yr Efengylydd.
Gweler hefyd
golygu- Gwenllian Morgan a fu'n byw yn y Priordy yn Aberhonddu.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Nelson, Lynn H. (1966). "The Normans in South Wales". Carrie: A Full-Text Electronic Library. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-09-28. Cyrchwyd 2007-08-21.
- ↑ Gwyddoniadur Cymru tud. 8. Gwasg y Brifysgol; 2008.