William FitzOsbern
iarll Henffordd ac arglwydd Breteuil yn Normandi
Arglwydd Normanaidd a Iarll cyntaf Henffordd oedd William fitzOsbern (tua 1020 – 22 Chwefror 1071). Roedd yn arglwydd Breteuil, yn Normandi, ac yn berthynas a chynghorydd i'r brenin Gwilym Goncwerwr.
William FitzOsbern | |
---|---|
Ganwyd | 1020 ![]() Fflandrys ![]() |
Bu farw | 22 Chwefror 1071 ![]() o lladdwyd mewn brwydr ![]() Cassel ![]() |
Galwedigaeth | person milwrol ![]() |
Tad | Osbern the Steward ![]() |
Mam | Emma d'Ivry ![]() |
Priod | Richilde, Countess of Hainaut, Alice de Toeni ![]() |
Plant | William of Breteuil, Roger de Breteuil, 2nd Earl of Hereford, Emma de Guader ![]() |
Llinach | Llinach Normandi ![]() |
Wedi buddugoliaeth y Normaniaid ym Mrwydr Hastings yn 1066, crewyd fitzOsbern yn Iarll Henffordd cyn 22 Chwefror 1067. Ef oedd y cyntaf o'r aglwyddi Normanaidd i feddiannu rhan o Gymru, pan oresgynnodd Gwent cyn 1070. Adeiladodd nifer o gestyll, yn cynnwys rhai yng Nghas-gwent a Threfynwy.
Lladdwyd ef ym Mrwydr Cassel wrth geisio cymryd meddiant o Fflandrys. Daeth ei diriogaethau yn Normandi yn eiddo ei fab hynaf, William o Breteuil, a'i diriogaethau yng Nghymru a Lloegr yn eiddo ei ail fab, Roger de Breteuil.