Argrafflen
Fformat argraffu papur newydd yw argrafflen (Saesneg: broadsheet). Mae'n fformat mawr sy'n tueddu i gael ei gysylltu â phapurau newydd "uchel ael", mewn cyferbyniaeth â'r papurau tabloid, ond erbyn heddiw mae sawl papur newydd yn y dosbarth hwnnw, fel The Guardian, yn cyhoeddi yn y fformat tabloid hefyd neu wedi rhoi heibio'r fformat argrafflen yn gyfangwbl.
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | Tabloid, fformat papur newydd ![]() |
Math | papur newydd ![]() |
Hyd | 22 modfedd ![]() |

Enghraifft o'r fformat argrafflen: adrannau The Wall Street Journal.
Yn hanesyddol, mae'r fformat argrafflen yn hŷn o lawer na'r fformat tabloid. Mantais y fformat yw gallu cynnwys erthyglau sylweddol ar un dudalen, ond mae ei faint yn gallu bod yn anghyfleus i'r darllenydd mewn cymhariaeth â'r tabloid, sy'n haws i'w drafod.